'Dyfodol darlledu Cymraeg yn y fantol' medd Prif Weithredwr S4C
'Dyfodol darlledu Cymraeg yn y fantol' medd Prif Weithredwr S4C
Mae Prif Weithredwr S4C wedi dweud bod dyfodol darlledu Cymraeg "yn y fantol" wrth iddo roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig yn Senedd y DU brynhawn Mercher.
Roedd y pwyllgor yn trafod dyfodol darlledu yng Nghymru yng nghyd-destun adolygiad o ffi’r drwydded deledu, sy’n ariannu BBC Cymru a’r rhan fwyaf o S4C.
Dywedodd Geraint Evans, pennaeth yr unig sianel Gymraeg, fod angen o leiaf yr un lefel o gyllid i S4C â’r hyn sydd ganddi ar hyn o bryd, ynghyd â chynnydd yn unol â chwyddiant.
Ond mae'n dweud y byddai angen mwy o arian os yw S4C am wasanaethu pob cynulleidfa, gan gynnwys pobl iau, ac ymateb i’r gystadleuaeth gynyddol.
Mae S4C bellach yn darparu cynnwys ar nifer o lwyfannau, gan gynnwys gwasanaethau ar-alw, cyfryngau cymdeithasol a YouTube.
Dywedodd Mr Evans ei fod yn croesawu galwad ddiweddar gan Ysgrifennydd Cymru, Stephen Kinnock, am "gyllid digonol" i S4C.
Ond gofynnodd beth yn union mae hynny’n ei olygu.
"Beth mae cyllid digonol yn ei olygu, ac at ba ddiben?" meddai. "Oherwydd i ni, mae’n rhaid iddo fod yn fwy na chynnal sianel deledu linol."
Dywedodd fod y sefyllfa bresennol mor dyngedfennol â’r cyfnod pan oedd ymgyrchwyr yn brwydro am sefydlu S4C.
"Dw i ddim yn meddwl fy mod i’n gorliwio pan rwy'n dweud fod y cyfnod hwn yn un mor bwysig i S4C â’r cyfnod pan fu pobl yn ymgyrchu dros y sianel," meddai.
"Heb gyllid digonol, mae dyfodol S4C a darlledu Cymraeg yn y fantol."
Fe wnaeth un o uwch benaethiaid BBC Cymru hefyd rybuddio am ddyfodol gwasanaethau'r gorfforaeth.
Dywedodd Rhys Evans, Pennaeth Materion Corfforaethol BBC Cymru, nad oes gan y BBC ddigon o arian i barhau i gynhyrchu’r math o gynnwys y mae’n ei wneud ar hyn o bryd.
Mae BBC Cymru yn edrych ar hyn o bryd ar arbedion o £9 miliwn, gyda 50 o swyddi i gael eu dileu.
Dywedodd Mr Evans wrth y Pwyllgor Materion Cymreig y bydd arbedion pellach yn debygol ar draws y BBC yn 2028 a 2029.
"Oni bai bod y ffi drwydded yn cael ei ddiwygio y dyfodol, rydym i gyd ar y llwybr anochel hwnnw o ddirywiad parhaus a rheoledig," meddai.
"Mae BBC Cymru yma i aros, ond nid wyf mor hyderus ynghylch y math o gynnwys rydym yn ei gynhyrchu a’i gyhoeddi mor effeithiol ar hyn o bryd, oherwydd yn syml, nid oes gennym yr arian ar ei gyfer."
Mae Llywodraeth y DU, sy'n rheoli meysydd darlledu a chyfathrebu, wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori yn gofyn am farn y cyhoedd ar nifer o opsiynau ariannu darlledu.
Mae’r ymgynghoriad yn rhan o’r broses o adnewyddu Siarter y BBC, sydd i ddod i ben yn 2027.