Rhestrau aros: Cleifion ‘mewn perygl o hyd’ wedi i ddyn orfod disgwyl dros bum mlynedd am ben-glin

Llun: PA/Rui Vieira
Llawfeddyg PA/Rui Vieira

Gallai cleifion orthopedig sydd ar restrau aros yn ardal Abertawe fod “mewn perygl o hyd,” yn ôl yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, ar ôl i’r bwrdd iechyd lleol fethu ag ymateb yn llawn i achos claf fu’n disgwyl am dros bum mlynedd am ben-glin.

Fe gyhoeddodd swyddfa’r Ombwdsmon, sy’n delio â chwynion am wasanaethau cyhoeddus, adroddiad y llynedd ar sail profiad y claf yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Roedd y claf, sy’n cael ei alw’n Mr W i warchod ei breifatrwydd, wedi bod ar restr aros am ben-glin newydd ers 2019 - ac yn y pendraw, doedd dim modd iddo fynd ymlaen â’r llawdriniaeth.

Ar sail yr achos hwn a thri achos blaenorol tebyg, fe gyflwynodd yr Ombwdsmon gyfres o argymhellion i’r bwrdd iechyd.

Ond wrth gyhoeddi adroddiad arbennig “anarferol” ddydd Iau, datgelodd y corff fod yr awdurdod iechyd wedi methu cydymffurfio â dau ohonyn nhw erbyn mis Chwefror eleni - gan gynnwys cwblhau archwiliad annibynnol o’r rhestr aros orthopedig i weld a oedd unrhyw un arall wedi cael eu trin fel Mr W.

Ymddiheurodd y bwrdd iechyd i’r claf a derbyn cyngor yr Ombwdsmon, gan ddweud y bydd yr argymhellion diweddaraf yn cael eu cwblhau yn brydlon.

Yr achos

Daeth achos Mr W at sylw swyddfa’r Ombwdsmon ym mis Ionawr 2025, ar ôl i’r claf gyflwyno cwyn am ei sefyllfa.

Roedd wedi bod yn disgwyl am lawdriniaeth i osod pen-glin newydd ers Awst 2019 - a daeth i’r amlwg yn ystod yr ymchwiliad i’w achos fod cloc amser aros Mr W wedi cael ei ailosod “yn amhriodol” ym mis Hydref 2023, heb roi gwybod i’r claf.

“O ganlyniad i’r oedi, profodd Mr W boen, llai o symudedd a rhwystredigaeth barhaus,” meddai adroddiad yr Ombwdsmon. “Yn ogystal â hyn, roedd bellach mewn sefyllfa lle nad oedd yn gallu bwrw ymlaen â llawdriniaeth ac roedd y cyfle wedi'i golli.”

Nid dyma’r unig bryderon gafodd eu codi am restr aros orthopedig y bwrdd iechyd, gyda’r Ombwdsmon yn dweud fod tri adroddiad ynghylch achosion tebyg wedi cael eu cyhoeddi yn 2024.

Roedd y bwrdd iechyd wedi cydweithio gyda’r Ombwdsmon yn ystod yr ymchwiliad ac wedi cyhoeddi’r adroddiad gwreiddiol am achos Mr W, ond chafodd dau o’r argymhellion “allweddol” ddim eu cwblhau, meddai’r corff goruchwylio.

Image
Michelle Morris
Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

‘Pryderus iawn’

“Rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn y gallai cleifion eraill fod mewn perygl o hyd nad yw eu hamser aros yn cael ei reoli yn unol â’r canllawiau perthnasol,” meddai’r Ombwdsmon, Michelle Morris.
 
“O ystyried fy ymchwiliadau blaenorol i restrau aros orthopedig y Bwrdd Iechyd, yr archwiliad a ddilynodd, a’r diffyg cynnydd wrth weithredu’r argymhellion sy’n weddill yn achos yr achwynydd, mae craffu annibynnol ar y rhestr aros a hyfforddiant priodol i staff yn parhau i fod yn hanfodol.”

Yn yr adroddiad arbennig newydd, mae’r Ombwdsmon wedi gosod argymhellion pellach, gan gynnwys darparu canfyddiadau archwiliad annibynnol o fewn 16 wythnos. Mae gofyn hefyd i’r bwrdd gyflwyno “tystiolaeth bod hyfforddiant wedi’i ddatblygu i fynd i’r afael â’r methiannau a nodwyd yn achos Mr W” o fewn 12 wythnos.

Ymrwymo i archwiliad

Dywedodd y bwrdd mewn datganiad ei bod hi’n “ddrwg iawn gennym am yr oedi a brofodd y claf hwn wrth aros am driniaeth ac am y gofid a achosodd hyn iddyn nhw a'u teulu.”

“Rydym yn derbyn canfyddiadau ac argymhellion yr Ombwdsmon yn llawn, gan gynnwys cynnal archwiliad annibynnol a darparu hyfforddiant ychwanegol i staff,” meddai.

“Rydym yn cydnabod y dylem fod wedi gweithredu'n gyflymach i ddarparu tystiolaeth glir o'r gwelliannau a wnaed, ac rydym yn deall y pryderon a godwyd yn yr adroddiad. Ein ffocws nawr yw sicrhau bod yr holl gamau gweithredu sy'n weddill yn cael eu cwblhau cyn gynted â phosibl ac o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.

“Dros yr 16 wythnos nesaf, bydd yr archwiliad annibynnol yn cael ei gwblhau, bydd unrhyw welliannau pellach a nodwyd yn cael eu rhoi ar waith, a byddwn yn gallu dangos bod yr hyfforddiant diwygiedig hefyd wedi'i roi ar waith.

“Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o'r achos hwn a sicrhau bod cynnydd yn parhau i gael ei fonitro'n agos trwy ein prosesau llywodraethu fel bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gweithredu'n llawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.