Gwrthod apêl dyn wnaeth achosi 'panig' drwy annog galwadau ffug am fom yng Nghaerdydd
Mae dyn wnaeth annog galwad ffug yn honni bod rhywun wedi gosod bomiau hoelion a chymryd gwystlon mewn gwesty yng Nghaerdydd wedi colli apêl yn erbyn ei ddedfryd.
Fe gafodd Callum Dare, 26 o Donysguboriau yn Rhondda Cynon Taf, ei garcharu am ddwy flynedd a thri mis yn gynharach eleni ar ôl cyfaddef iddo annog ac ymffrostio adroddiadau ffug.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd yn yr achos gwreiddiol fod yr honiadau gafodd eu hanfon i newyddiadurwr yn y brifddinas wedi arwain at gau ardal o gwmpas y gwesty, gan arwain at “banig ac aflonyddwch eang.”
Roedd Dare yn rhedeg safle ar y we dywyll rhwng 2018 a 2019, pan oedd yn 18-19 oed, ble fyddai’n arfer rhannu dolenni’n ymwneud â galwadau ffug o’r fath - ffenomen sy’n cael ei alw’n “swatting.”
Ymhlith y dolenni roedd gwybodaeth am alwad ffug at yr heddlu yn Los Angeles yn 2016 oedd yn honni bod bomiau o dan gadeiriau ar gampws Prifysgol Califfornia - digwyddiad a arweiniodd at wagio’r safle ar frys.
Fe gyfaddefodd Dare i gyhuddiadau ei fod wedi annog neu helpu gydag adroddiadau maleisus, ac o feddiannu ar eitemau i’w defnyddio mewn twyll, ac fe gafodd ei ddedfrydu ym mis Gorffennaf.
Heriodd y ddedfryd yn y Llys Apêl, gyda’i fargyfreithiwr yn dweud mewn gwrandawiad ddydd Mawrth y dylai fod wedi cael dedfryd wedi’i gohirio yn hytrach na chael ei garcharu’n syth.
Ond cafodd ei gais ei wrthod gan dri uwch farnwr, a ddywedodd fod y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, a ddedfrydodd Dare yn wreiddiol, wedi cyrraedd ei phenderfyniad wedi ystyried “holl ffactorau’r achos.”
Ymchwiliad FBI
Cafodd Dare, a wyliodd yr achos o Garchar Parc ger Pen-y-bont, ei arestio wedi ymchwiliad ar y cyd gan yr FBI ac awdurdodau Canada, a drosglwyddodd y wybodaeth i Heddlu De Cymru.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod yr heddlu wedi dod o hyd i ffeiliau ar ei ddyfeisiau yn cynnwys “twyll gwe-rwydo soffistigedig” oedd wedi’i ddylunio i ddwyn manylion talu defnyddwyr y we dywyll.
Wrth ddedfrydu Dare yn wreiddiol, dywedodd y Barnwr Lloyd-Clarke ei bod hi wedi ei hargyhoeddi fod ei droseddau “mor ddifrifol” bod yn rhaid ei garcharu ar unwaith.
Ond dywedodd ei fargyfreithiwr Peter Donnison wrth y Llys Apêl ddydd Mawrth ei fod yn teimlo fod y barnwr wedi gwneud camgymeriad a bod dim cyfiawnhad dros y ddadl y dylai’r troseddwr gael ei garcharu i atal troseddu pellach.
“Doedd dim modd cyfiawnhau dedfryd o garcharu ar unwaith ar sail ataliaeth, o ystyried oedran Mr Dare, faint o amser sydd wedi mynd heibio ers y troseddu, [ac] y posibilrwydd o adferiad,” meddai. Soniodd hefyd fod gan Dare ADHD ac mai dyma ei drosedd gyntaf.
Gwrthod y ddadl wnaeth y Barnwr Linden, ar ran y tri oedd yn adolygu’r ddedfryd, gan ddweud bod y galwad ffug yng Nghaerdydd wedi achosi “panig ac aflonyddwch eang.”
“Roedd y troseddu yn yr achos hwn gyfystyr ag annog gwastraffu amser yr heddlu… ble mae unrhyw fesur ataliol yn gwbl briodol,” meddai.