‘Embaras’: Sgam stondin gŵyl fwyd yn taro sawl perchennog busnes
Mae menyw o Sir Fynwy yn dweud iddi fod mewn “embaras” ar ôl cael ei sgamio wrth wneud cais am stondin yng Ngŵyl Fwyd Y Fenni eleni.
Dywedodd Harriet Thomas - perchennog Cosy Throws, busnes blancedi gwlân wedi'u gwneud â llaw - ei bod wedi ei "thwyllo'n dda iawn" a hithau wedi gobeithio cael lle yn y digwyddiad ers peth amser.
Doedd hi ddim eisiau rhannu'r union swm a gollodd i'r sgamwyr - ond nid hi yw'r unig berchennog busnes gafodd ei thargedu.
Mae'r ŵyl fwyd flynyddol yn Y Fenni, fydd yn cael ei chynnal dros benwythnos 19-20 Medi, yn croesawu dros 15,000 o ymwelwyr gan gynnig stondin i dros 120 o fasnachwyr.
“Dwi ‘di trïo gwneud cais am stondin yng Ngŵyl Fwyd y Fenni yn y gorffennol, ond heb lwyddo cael lle - sy’n gwbl ddealladwy gyda digwyddiad mor boblogaidd,” meddai Harriet, wrth siarad â Newyddion S4C.
“Roeddwn wrth fy modd ar ôl derbyn e-bost ychydig wythnosau’n ôl gan gyfeiriad oedd yn ymddangos fel ei fod gan yr ŵyl, yn gofyn os oedd gen i ddiddordeb am le yn y digwyddiad eleni.
“Ar ôl llenwi’r ffurflen a deuddydd o ymgynghori'n ôl ac ymlaen gyda’r cyswllt, fe ddaeth cyhoeddiad gan Ŵyl Fwyd Y Fenni ar eu cyfryngau cymdeithasol yn nodi eu bod wedi cael gwybod am achosion o sgamio.
“Dw i mewn gymaint o embaras - ges i fy nhwyllo mor dda.”
Mor ‘realistig’
Yn ôl Harriet, roedd yr e-bost yn cynnwys llawer o wybodaeth fel nifer disgwyliedig yr ymwelwyr, y mathau o stondinau fyddai i’w cael yno, ac yna rhestr fanwl o fanylion y byddai angen i Harriet ei gyflwyno.
“'Nes i ddim amau dim, dyma’r ffordd safonol y bydd llawer o’r sioeau mawr yn cysylltu â darpar stondinwyr, ac roedd y cyfeiriad e-bost ei hun yn ymddangos yn ddilys," meddai.
Roedd yr e-bost ffug yn diweddu gydag @gmail.com - a allai fod yn anarferol gan fusnesau swyddogol.
Ychwanegodd Harriet fod yr e-bost yn gofyn iddi lenwi Jotform, sy'n fath o ffurflen sy’n cael ei defnyddio’n rheolaidd gan ddigwyddiadau i gasglu gwybodaeth busnes gan stondinwyr.
“Roedd gan y ffurflen yr un ffont, brandio a’r un lliwiau y mae’r ŵyl yn ei defnyddio ei hun.
“Roedd y dewis am leoliad hefyd yr union fath â’r lleoliadau sy’n cael eu cynnig gan yr ŵyl, sef Lower Brewery Yard, Market Hall a Castle Ground, y cyfan wedi eu rhestru yno.
“Unwaith eto, doedd dim byd yn ymddangos yn rhyfedd,” meddai Harriet.
Ychydig ddiwrnodau wedi i Harriet lenwi’r ffurflen, fe gyhoeddodd Gŵyl Fwyd y Fenni neges swyddogol ar eu cyfrifon cymdeithasol oedd yn nodi bod eu holl stondinau'n llawn ac na fyddai'r ŵyl fyth yn cysylltu i ofyn am daliad ar e-bost sydd ddim yn gorffen ag "@abergavennyfoodfestival.com."
Esboniodd Harriet sut y bu iddi gynhyrfu’n lân ar ôl gweld y neges yma, gan droi at ei chynulleidfa o 10,000 o bobl ar gyfrwng cymdeithasol Facebook i rannu'r fideo am yr hyn ddigwyddodd.
“Cafodd y fideo ymateb anhygoel - roedd pobl mor garedig a rhai yn cynnig lleoedd imi mewn gwahanol sioeau.
“Yn anffodus, nid fi’n unig sydd wedi derbyn yr e-bost - cefais sawl sylw gan bobl yn dweud fod gwylio y fideo wedi eu hatal rhag cyflwyno taliad neu ateb yr e-bost.
“Mae hi’n ddigon anodd i fusnesau bach ar hyn o bryd gyda pha mor anodd yw’r economi. Mae cael dy dwyllo fel hyn - lle gallai stondin gostio rhwng £200-£600 - yn golled enfawr,” ychwanegodd.
Wrth ymateb i brofiad Harriet, fe gadarnhaodd Gŵyl Fwyd y Fenni nad oedd gan yr ŵyl "ddim math o gysylltiad" â’r achosion o sgamio.
Ychwanegodd yr Ŵyl ei bod wedi “synnu” o glywed am bobl yn manteisio ar ewyllys da perchnogion busnesau bach, a’i bod yn “drist iawn” o glywed am yr hyn a ddioddefodd Harriet.
Dywedodd llefarydd eu bod wedi “cynnig stondin am bris gostyngol sylweddol" i fasnachwr arall a ddioddefodd y twyll - gan gynnig yr un peth i Cosy Throws.
“Rydym yn cymryd lles a diogelwch ein harddangoswyr a’r gymuned ehangach sy’n gysylltiedig â’r ŵyl yn eithriadol o ddifrif, a byddem yn parhau i adolygu a chryfhau ein prosesau i helpu i ddiogelu busnesau rhag y math hwn o weithgarwch twyllodrus yn y dyfodol,” meddai llefarydd.
Dywedodd yr ŵyl ei bod yn monitro’r sefyllfa’n weithredol, ac wedi cymryd camau gan gynnwys cyhoeddi rhybuddion cyhoeddus a chysylltu â gwyliau a digwyddiadau eraill, gan gynnwys Gŵyl Fwyd Llwydlo, Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri a Gŵyl Fwyd Heaton Park, i'w rhybuddio am sgamiau tebyg ar Facebook.
Teimlad ‘ofnadwy’
Mewn sgwrs gyda Newyddion S4C, fe ddywedodd perchennog cwmni arall, Alice in Welsh Cake Land, ei bod wedi derbyn tri e-bost gan wahanol gyfeiriadau yn esgus bod oddi wrth Gŵyl Fwyd y Fenni, ond hefyd gwyliau bwyd eraill.
“Pan gyrhaeddodd yr e-bost roeddwn i wedi cyffroi’n lân gan fod yr ŵyl yn un mor fawr,” meddai Alice Hayes.
“Ond roedd y prisiau’n rhy ddrud i mi, felly ‘nes i benderfynu ei anwybyddu gan fod gen i gynlluniau eraill ar gyfer y penwythnos hwnnw.
“Mae’r negeseuon yn ymddangos mor wir - roedd y rhai ‘gan’ Sain Ffagan ac Arberth yn ddrytach na’r arfer ac felly byddwn i heb ateb yn y lle cyntaf.
“Dw i’n teimlo mor wael dros Cosy Throws - mae’n deimlad ofnadwy. Os na fyddwn i’n brysur y penwythnos hwnnw byddwn i ‘di gwneud yr union gamgymeriad,” ychwanegodd Ms Hayes.
Mae Newyddion S4C ar ddeall bod o leiaf saith busnes arall hefyd wedi derbyn neges debyg gan y cyfeiriad e-bost ffug.
Ymysg y rheini oedd siop goffi Take Two, a Black Mountain Coffee Ltd, a dderbyniodd e-bost i lenwi holiadur, ac i anfon manylion talu.
Yn ôl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), dylai unigolion a busnesau anfon unrhyw e-bost nad ydynt yn hollol siŵr amdano ymlaen at report@phishing.gov.uk.
Mae’r cyngor diweddaraf gan y Ganolfan hefyd yn nodi i beidio â chlicio ar unrhyw ddolenni mewn e-bost amheus, rhag ofn iddynt arwain at wefan a allai lawrlwytho firws i gyfrifiaduron, neu ddwyn gwybodaeth bersonol drwy we-rwydo (phishing).