Eryri: Cynllun newydd gwerth £1 miliwn i geisio adfer byd natur yn Nant Ffrancon
Mae cynllun newydd gwerth £1 miliwn yn gobeithio adfer byd natur, cynefinoedd a rhywogaethau prin yn Nant Ffrancon yn Eryri.
Yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’i ariannu gan bron i £1m o Gronfa Rhwydweithiau Natur, mae’r prosiect #NNF5 Natur i Bobl Nant Ffrancon yn ceisio adfer byd natur ar raddfa eang.
Mae’r dyffryn yn wynebu "dirywiad ecolegol difrifol" meddai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae "cynefinoedd wedi dod yn rhanedig ac mae rhai o rywogaethau Cymru sydd fwyaf dan fygythiad, gan gynnwys mwyalchen y mynydd a llinos y mynydd, mewn perygl o ddiflannu."
Gan weithio ar y cyd â chymunedau lleol, ffermwyr tenant a gwirfoddolwyr ar dir y mae’r Ymddiriedolaeth yn gofalu amdano yn lleol, mae clytwaith o dros 1635 hectar yn rhan o'r cynllun newydd.
Bydd cynefinoedd o flaenoriaeth gan gynnwys corsydd ucheldir, rhosydd mynyddig, afonydd a glaswelltir blodau gwyllt yn elwa o gamau ymarferol wedi’u targedu, fel pori, meddai trefnwyr y cynllun.
Bydd arolygon ecolegol a monitro rheolaidd yn mapio effaith y gwaith ar adfer Nant Ffrancon.
Y bwriad yw defnyddio rhywogaethau megis bele’r coed a dyfrgwn, a phlanhigion fel aethnen a meryw fel arwyddion o iechyd y dyffryn wrth i’r prosiect ddatblygu.
'Angen gweithredu nawr'
Dywedodd Simon Rogers, Rheolwr Prosiect Natur i Bobl Nant Ffrancon i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Mae Nant Ffrancon yn un o dirweddau mwyaf arbennig Cymru, ond fel sawl lle, mae’n wynebu heriau sylweddol oherwydd colli cynefinoedd a dirywiad mewn bioamrywiaeth. Rydym wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, ac mae angen i ni weithredu nawr.
“Mae Natur i Bobl Nant Ffrancon yn rhoi cyfle cyffrous i ni weithio ochr yn ochr â chymunedau lleol, ffermwyr a phartneriaid, i adfer ac uno cynefinoedd sy’n well i fyd natur, cefnogi rhywogaethau dan fygythiad a chreu dyfodol mwy gwydn i’r dyffryn.
“Wrth adeiladu ar waith adfer byd natur blaenorol a pharhaus yn yr ardal, a rhoi pobl wrth wraidd yr adferiad byd natur, rydym yn gobeithio creu gwaddol parhaol lle gall bywyd gwyllt, ffermio a chymunedau ffynnu gyda’i gilydd a lle all bywyd gwyllt ffynnu am genedlaethau.”
Tlysau Mynydd Eryri, prosiect cadwraeth i ddiogelu dyfodol rhai o’r planhigion alpaidd mwyaf prin yng Nghymru yw un o’r prosiectau y bydd Natur i Bobl Nant Ffrancon yn darparu cymorth ar ei gyfer.
Bydd y prosiect yn adeiladu ar y defnydd arloesol o goleri da byw GPS i reoli pori yn fwy manwl.
Mae'r dechnoleg hon ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio ym Mlaen y Nant, sef fferm draddodiadol yr ucheldir dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Llun: YGC/Paul Harris