Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Aberhonddu
Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a a char ger Aberhonddu.
Cafodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd yr A40 rhwng Bwlch ac Aberhonddu tua 14.30 ar ddydd Sadwrn 5 Medi.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Ford C-Max gwyn a beic modur KTM 1290 Duke.
Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.
Cafodd y ffordd ei chau er mwyn cynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad, ac fe gafodd ei hail-agor am tua 02:00 ar 6 Medi.
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth.