Mark Drakeford: ‘Dim lot o berthynas’ gyda Boris Johnson
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi datgelu nad oes ganddo “lot o perthynas” gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, ar hyn o bryd.
Dywedodd hefyd nad yw wedi siarad gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson “ers mis Mehefin”.
Daeth hyn i’r amlwg mewn sgwrs ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru fore Sul.
Ychwanegodd bod mwy o gyfleoedd i siarad gydag aelodau eraill o gabinet Llywodraeth y DU.
Mae’r berthynas rhwng y ddau Brif Weinidog wedi bod dan bwysau ers tro, gyda Mr Drakeford yn galw Mr Johnson yn “ofnadwy” mewn rhaglen ddogfen Prif Weinidog Mewn Pandemig a gafodd ei darlledu ar S4C fis Mawrth.
“Dwi ddim wedi siarad ‘da y Prif Weinidog cyn mis Mehefin diwetha’. Nawr, ni’n cael lot fwy o cyfleon i siarad gyda gweinidogion eraill yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig”.
Serch hynny, aeth Mr Drakeford ymlaen i ddweud fod y cyfleoedd i sgwrsio gyda Phrif Weinidog y DU yn llai nag yr oedden nhw yn y gorffennol.
“Pan dwi’n cymharu y cyfleon o’dd ‘da ni i siarad a ‘neud pethau gyda Theresa May er enghraifft, o’dd lot fwy o cyfleon yna.
“A pan dwi’n edrych yn ôl i’r adeg pan o’dd Rhodri Morgan yn Prif Weinidog a o’dd e’n delio gyda Tony Blair a Gordon Brown – yn yr un parti, Plaid Lafur, o’dden nhw so mae hwnna’n 'neud gwahaniaeth – ond o’dden nhw’n gallu siarad bob mis, heb amheuaeth.
“Ar ôl i Boris Johnson ddod fel Prif Weinidog, mae hwnna wedi bod yn wahanol”.
‘Delio gyda rhai pethau heriol’
Yn ystod y cyfweliad a gafodd ei recordio i ddathlu ei ben-blwydd yn 67 oed, siaradodd Mr Drakeford am y trafodaethau rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.
Fe gyhoeddodd y ddwy blaid mewn datganiad ar y cyd yn gynharach yr wythnos hon eu bod yn trafod y posibilrwydd o gyd-weithio ar rai polisïau penodol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r trafodaethau rhwng y pleidiau, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am fwy o fanylion.
Ond, dywedodd Mr Drakeford bod niferoedd y blaid Lafur yn y Senedd yn ei gwneud hi’n anodd pasio rhai deddfau “heriol”.
“Ni wedi bod yn siarad gyda Phlaid Cymru achos 30 o bleidleisiau sy’ ‘da ni fel Plaid Lafur ar lawr y Cynulliad a mae 60 o aelodau y Senedd so gyda 30 mae lot o bethau chi ddim yn gallu ‘neud.
“Chi ddim yn gallu deddfu o gwbl, dydych chi ddim yn gallu pasio’r cyllid, a be’ dwi eisiau 'neud fel Prif Weinidog yn yr amser sy’ 'da fi yw i trial i delio gyda’r rhai pethau heriol, pethau sydd wedi bod yn anodd i ‘neud dros y blynyddoedd ac i ‘neud nhw nawr.
“Trial i ‘neud nhw gyda 30 o bleidlais, pan mae pob un o’r pleidiau yn gwrthwynebu beth chi’n neud, achos mae hwnna yw’r natur o’r gwleidyddiaeth, mae’n troi pethau sy’n anodd i bethau sydd fwy anodd i 'neud”.
Un enghraifft a gafodd ei grybwyll gan Mr Drakeford oedd diwygio’r ffordd y mae’r Dreth Gyngor yn cael ei mesur.
Dywedodd: “Ma’ treth cyngor ddim yn deg o gwbl a ‘dyn ni ddim wedi ‘neud pethau fel ailwampio y rhestr o’r tai yma yng Nghymru ers 2003 so mae’n bron 20 blwyddyn nawr gyda’r un restr”.
Mae disgwyl i’r trafodaethau ar gyd-weithio rhwng y ddwy blaid barhau dros yr wythnosau nesaf.
Llun: Llywodraeth Cymru