Y Cymro 22 oed sy’n rhan o dîm hyfforddi rygbi Gwlad Pwyl
Y Cymro 22 oed sy’n rhan o dîm hyfforddi rygbi Gwlad Pwyl
Mae Cymro yn rhan o dîm hyfforddi rygbi Gwlad Pwyl – ac yntau ond yn 22 oed.
Mae Osian Edwards, o Grymych, Sir Benfro, wedi bod yn Brif Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru gydag Undeb Rygbi Gwlad Pwyl ers mis Gorffennaf eleni.
Dywedodd Osian wrth Newyddion S4C: “Swydd fi yw i edrych ar ôl y bechgyn gyda gwaith pwysau, gwaith twymo i fyny a pethe fel ‘na”.
Ar hyn o bryd, mae Gwlad Pwyl yn chwarae yng nghystadleuaeth Tlws Rygbi Ewrop, yn erbyn Yr Almaen, Lithuania, Yr Iseldiroedd, Y Swistir a’r Iwcrain.
Roedd y cyfle i weithio i garfan rygbi genedlaethol yn un rhy dda i’w golli, yn ôl Osian.
“Nath prif darlithydd fi o’r prifysgol ffonio fi lan a gweud o’n i moyn y cyfle i’r cais ‘ma a wedes i ‘O ie, wrth gwrs’ achos bod e’n siawns un mewn mil fi’n credu”.
Mae Osian wedi bod â diddordeb mewn rygbi ers nifer o flynyddoedd.
“Ers fi’n cofio i gweud y gwir, wedi bod lan drwy system y Scarlets yn ffodus iawn a pryd symudes i i Gaerdydd i neud bachelor’s degree fi yn strength and conditioning fi’n credu cwmpes i mewn cariad gyda neud yr ochr codi pwysau a dysgu am yr physiological effects sy’n digwydd”.
O ran y dyfodol, mae Osian yn edrych ymlaen i fanteisio ar bob cyfle mae ei rôl gyfredol yn ei gynnig.
“Ar y funud fi’n credu fydda i’n concentrato gyda Gwlad Pŵyl a gweld shwt ma’ hwnna’n mynd a wedyn gobeitho os ddeith y siawns i ddod ‘nôl fan hyn yn Cymru, yn Lloegr, falle nai gymryd y siawns yna gyda rhyw tîm proffesiynol fan hyn”.