Dirwyon o bron i £1 miliwn i sawl busnes yng Nghymru am gyflogi gweithwyr anghyfreithlon
Mae busnesau ledled Cymru wedi cael eu dirwyo am gyflogi gweithwyr anghyfreithlon, gyda'r cyfanswm yn agos at £1 miliwn.
Yn ôl ffigurau Llywodraeth y DU, roedd busnesau gan gynnwys bwytai, siopau trin gwallt a golchi ceir wedi derbyn dirwyon o ddegau o filoedd am gyflogi'r gweithwyr rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth eleni.
Roedd y cyfanswm ar draws yr 19 busnes yn cyrraedd £970,000.
Busnes golchi ceir ym Mhont-y-pŵl a dderbyniodd y ddirwy fwyaf, sef £160,000.
Cafodd dau fusnes ar Ynys Môn ddirwyon am gyflogi gweithwyr anghyfreithlon.
Fe wnaeth Kurdish Barber yng Nghaergybi dderbyn dirwy o £45,000, tra bod Sarisa Indian Kitchen ym Miwmares wedi cael dirwy o £40,000.
Dim ond dau fusnes sydd wedi eu lleoli yng ngogledd Cymru, tra bod y gweddill i gyd yn ne Cymru.
Mae pedwar o'r 19 busnes yng Nghaerdydd a dau yn Abertawe.
Gall troseddwyr gael eu hanfon i'r carchar am bum mlynedd neu gael dirwy ddiderfyn os bydden nhw'n cael eu canfod yn euog o gyflogi rhywun yr oeddent yn gwybod, neu yr oedd ganddynt achos rhesymol dros gredu, nad oedd ganddo'r hawl i weithio yn y DU, meddai Llywodraeth y DU.
Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, os oedd ganddynt unrhyw reswm dros gredu bod person:
-heb ganiatâd i ddod i mewn i'r DU neu aros yn y DU
-wedi gweld ei ganiatâd i aros yn dod i ben
-heb hawl i wneud mathau penodol o waith
-â dogfennau anghywir neu ffug
Yn ogystal, gall busnesau gael eu cosbi os ydynt yn cyflogi rhywun nad oes ganddo yr hawl i weithio ac nad ydynt wedi cynnal y gwiriadau cywir.