'Ein rhif 11 am byth': Clwb pêl-droed yn y de yn ymddeol crys rhif 11 er cof am chwaraewr ifanc

Ioan Evans

Mae clwb pêl-droed Lido Afan ym Mhort Talbot wedi ymddeol crys rhif 11 er cof am chwaraewr ifanc a fu farw.

Bu farw Ioan Evans, o Rondda Cynon Taf, yn 25 oed ym mis Chwefror eleni.

Dywedodd y clwb ar y pryd fod Ioan yn bêl-droediwr “ymrwymedig” oedd “bob tro’n llwyddo i roi gwên ar eich wyneb.”

Wrth i Lido Afan gychwyn y tymor newydd yn ail haen cynghreiriau Cymru, mae'r clwb wedi penderfynu ymddeol crys rhif 11 er cof am Ioan.

"Gyda'r tymor newydd yn cychwyn, mae'r pwyllgor ac aelodau'r clwb wedi cymryd amser i drafod sut y gallwn sicrhau bod Ioan yn cael ei gofio fel rhan barhaol o Glwb Pêl-droed Lido Afan," meddai'r clwb.

"Cytunwyd yn unfrydol y dylid ymddeol crys rhif 11 yn swyddogol.

"Mae hyn yn sicrhau bod y deyrnged a ddechreuodd gan y rhai oedd yn rhannu'r cae a'r ystafell newid gydag Ioan yn un barhaol.

"Bydd y rhif 11 nawr yn deyrnged barhaol i Ioan, ac yn sicrhau ei fod yn cael ei gofio a'i fod yn cael ei anrhydeddu o fewn y clwb gan ei deulu, ffrindiau, cyd-chwaraewyr a phawb sydd â chysylltiad â Lido Afan."

Image
Crys 11 Ioan

Does dim un chwaraewr wedi gwisgo'r crys 11 ers i Ioan Evans farw ym mis Chwefror, meddai'r clwb.

Wrth iddo astudio ym Mhrifysgol Met Caerdydd, fe chwaraeodd Ioan ei gem gyntaf yn y JD Cymru Premier dros y clwb o'r brifysgol yn erbyn Llanelli yn 2019. 

Fe ymunodd Ioan â chlwb pêl-droed Lido Afan yn 2020 gan ymddangos mewn 127 o gemau. 

Sgoriodd 16 gôl yn ystod ei gyfnod yno, ac roedd yn gapten ar y tîm nifer o weithiau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.