Ynysoedd y Falkland: Arlywydd Yr Ariannin yn bygwth sancsiynau ar gwmnïau olew
Mae Arlywydd Yr Ariannin wedi bygwth gosod sancsiynau yn erbyn cwmnïau, cyfranddalwyr a chyflenwyr sy'n ymwneud â drilio am olew ger Ynysoedd y Falkland.
Tynnodd Javier Milei sylw at brosiect olew Sea Lion, sy'n cael ei redeg gan gwmnïau Navitas Petroleum a Rockhopper Exploration, fel bygythiad uniongyrchol i fuddiannau'r Ariannin.
Mae sofraniaeth yr ynysoedd wedi dod i sylw rhyngwladol eto yn ddiweddar, gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn awgrymu na fyddai efallai yn cefnogi Prydain mewn unrhyw wrthdaro newydd dros y Falklands, gan nodi ei anfodlonrwydd â safiad Prydain ar y rhyfel yn Iran.
Yn ystod yr haf fe chwifiodd chwaraewyr pêl-droed Yr Ariannin faner yn ystod Cwpan y Byd oedd yn datgan mai eu gwlad oedd yn berchen ar yr ynysoedd sy'n cael eu hadnabod fel Las Malvinas yn Yr Ariannin.
Addawodd arlywydd yr Ariannin y byddai'n adeiladu canolfan newydd yn Tierra del Fuego ar gyfer llynges ei wlad ac yn cyflwyno mesur newydd i'r Gyngres i amddiffyn sofraniaeth genedlaethol.
Cadarnhaodd Downing Street ymrwymiad Prydain i Ynysoedd y Falkland yn dilyn sylwadau Milei, gyda'r Ysgrifennydd Amddiffyn cysgodol, James Cartlidge, yn mynnu y bydd yr ynysoedd yn parhau i fod yn rhai Prydeinig.
Roedd Ynysoedd y Falkland yn dyst i ymladd ffyrnig ym 1982 pan ysgogodd ymosodiad milwrol gan luoedd Yr Ariannin ryfel dros y diriogaeth.
Bu farw 225 o filwyr o Brydain, a 649 o luoedd Yr Ariannin yn y rhyfel rhwng y ddwy wlad dros gyfnod o 74 o ddyddiau.
