Mae cerddwr wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei daro gan garreg wrth ddod i lawr Cadair Idris.
Cafodd Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi eu galw am 21:00 nos Lun, ar ôl i ddau gerddwr golli trywydd y llwybr wrth ddod i lawr y mynydd.
Yn ôl y tîm, fe syrthiodd carreg a tharo un o’r cerddwyr ar ei ben wrth i’r ddau ddringo dros wal.
Fe barhaodd yr ymdrech i achub y dyn bron i saith awr gyda'r criwiau yn gadael y mynydd toc wedi 04:00 fore Mawrth.
Oherwydd signal ffôn gwael, nid oedd y rhai oedd yn delio â’r alwad yn gallu siarad yn uniongyrchol â’r cerddwyr na chadarnhau eu lleoliad.
Dechreuodd aelodau’r tîm chwilio ar hyd llwybrau posib cyn derbyn rhagor o wybodaeth am ble’r oedd y ddau.
Fe glywodd yr achubwyr alwadau am help wrth iddyn nhw chwilio ar dir “anhygoel o heriol” yn ôl y tîm, gyda choed wedi cwympo, tir anwastad a rhedyn yn uwch na’u pennau.
Image
(Llun: Tîm Achub Mynydd Aberdyfi)
Cafodd un o’r cerddwyr ei hebrwng oddi ar y mynydd, tra bod aelodau eraill o’r tîm yn trin y cerddwr oedd wedi’i anafu.
Oherwydd yr anaf i’r pen a phryder am anaf posib i’r asgwrn cefn, cafodd yr unigolyn ei osod ar stretsier.
Yna cafodd ei gario i fyny at y llwybr ac oddi ar y mynydd, cyn cael ei drosglwyddo i griw ambiwlans a’i gludo i’r ysbyty am driniaeth bellach.
Mae’r tîm wedi atgoffa pobl sydd mewn trafferth yn y bryniau i ffonio 999, gofyn am yr heddlu ac yna’r gwasanaeth achub mynydd.