Pryderon am reolaeth un o gwmniau teledu a digwyddiadau Cymru wedi iddo fynd i'r wal
Mae cyn-weithwyr wedi codi cwestiynau am reolaeth un o gwmniau teledu, digwyddiadau a chysylltiadau mwyaf adnabyddus Cymru wedi iddo fynd i'r gwellt.
Daeth cadarnhad heddiw bod aelodau bwrdd cwmni Orchard Media wedi gorchymyn i gwmni Menzies LLP ddod â'r cwmni i ben yn llwyr.
Mae rhyw 70 o staff wedi colli eu swyddi o ganlyniad i'r cyhoeddiad.
Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod wedi "wynebu heriau marchnad yn crebachu a chystadleuaeth yn cynyddu".
Dywedon nhw felly bod "ansawdd a graddfa" eu gwaith ddim yn gynaliadwy bellach.
Ond mae cyn-weithwyr i'r cwmni wedi dweud wrth Newyddion S4C bod ganddyn nhw bryderon am reolaeth y cwmni. Mae gweithwyr llawrydd, cerddorion a chwmniau eraill wedi cadarnhau wrth y rhaglen bod Orchard heb eu talu am waith sydd eisoes wedi ei gwblhau.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Menzies LLP a chyn-brif weithredwr Orchard Media, Kerry McDonald, i ofyn am eu hymateb i'r pryderon. Does dim ateb wedi cyrraedd hyd yn hyn.
Cafodd y cwmni ei ffurfio o dan yr enw Orchard yn 2010.
Yn 2024, fe ddaeth y cwmni yn ymddiriedolaeth yn eiddo i'r gweithwyr.
'Cwestiynau mawr'
Wedi ei leoli yng Nghaerdydd, roedd wedi creu enw ei hun ym maes digwyddiadau a chyfathrebu, gan gynhyrchu cyfresi i S4C a'r BBC a gwneud gwaith digwyddiadau a chynnwys ar ran Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bel-droed Cymru yn y gorffennol.
Ond yn ôl rhai cyn-weithwyr, sydd wedi siarad yn anhysbys gyda Newyddion S4C, roedd pethau wedi newid o ran diwylliant a llwyddiant y cwmni dros y ddwy flynedd diwethaf.
Yn ôl y cyn-weithwyr, er bod y staff i fod yn rheoli'r cwmni, prin iawn oedd y wybodaeth oedd yn cael ei rhannu gyda nhw am berfformiad y cwmni.
Honnwyd bod dim arwydd i staff tan ddechrau wythnos diwethaf y byddai'r cwmni yn dod i ben, cyn i hynny gael ei gadarnhau ddydd Gwener diwethaf.
Dywedodd cyn-weithiwr arall bod "cwestiynau mawr i'w gofyn" am "sut allai cwmni oedd â throsiant o £15 miliwn, ddwy flynedd yn ôl fynd i'r wal?"
Orchard Media gynhyrchodd ddarllediadau S4C o ddigwyddiad Tafwyl eleni.
Mae rhai gweithwyr llawrydd gyfrannodd at y rhaglen honno wedi honni nad ydyn nhw wedi eu talu am y gwaith yna.
'Clec"
Cafodd rhai gweithwyr eraill eu talu gan gwmni cynhyrchu arall oedd wedi eu his-gontractio gan Orchard Media. Mae Newyddion S4C yn cael ar ddeall nad yw'r cwmni hwnnw wedi ei dalu gan Orchard Media.
Yn ôl gwybodaeth a gafodd ei rhannu â Newyddion S4C, mae Menter Caerdydd, sydd yn trefnu digwyddiad Tafwyl, yn un o gredydwyr Orchard Media.
Disgrifiodd ffynhonnell o fewn i Fenter Caerdydd y ddyled fel "tipyn o glec".
Er i gerddorion berfformiodd yn nigwyddiad Tafwyl eleni dderbyn ffî am berfformio, mae nifer o'r rhai gafodd eu perfformiadau eu darlledu ar S4C heb eu talu gan Orchard Media.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Roedd hi’n ddrwg gennym glywed y newyddion am gwmni Orchard ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y datblygiadau. Rydym yn cydnabod y pryder a rhwystredigaeth sy’n deillio o’r sefyllfa."
"Mae S4C wedi cwblhau’r holl daliadau i Orchard oedd yn ddyledus ohono yn unol â’r cytundebau perthnasol."
"Fel sydd yn arferol, Orchard fel y cwmni cynhyrchu oedd yn gyfrifol am daliadau i artistiaid a phawb oedd yn gweithio ar y cynhyrchiad."
“Bydd darllediadau Tafwyl yn parhau i fod ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer am weddill y ffenestr hawliau.”