Cannoedd yn dod ynghyd ar ôl fandaliaeth i barc poblogaidd yng Nghaerdydd
Daeth cannoedd at ei gilydd mewn digwyddiad cymunedol yn un o barciau Caerdydd ddydd Sadwrn ar ôl achos o fandaliaeth "difrifol" ym mis Medi.
Cafodd taith gerdded ei threfnu ar hyd y llwybr ym Mharc Biwt lle gafodd mwy na 50 o goed eu dinistrio, gyda phicnic i ddilyn.
Yn ôl y trefnwyr, trefnwyd y digwyddiad er mwyn dangos "ymateb positif" ac "uno yn erbyn yr atgasedd a'r fandaliaeth i Barc Biwt".
Ddydd Gwener 10 Medi, dywedodd Cyngor Caerdydd bod fandaliaeth gwerth "miloedd o bunnoedd" wedi digwydd yn y parc dros nos.
Yn ôl Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon ar Gyngor Caerdydd, roedd yn “ddifrod troseddol sylweddol” gyda mwy na 50 o goed wedi eu dinistrio a nifer o finiau wedi eu rhwygo o’r concrit.
Dywedodd: “Mae gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod wedi’i wneud yr holl ffordd o Bont y Gored Ddu i Ystafelloedd Te Pettigrew.
“Rwy’n condemnio’r ymddygiad hwn yn llwyr. Nid yw hyn yn dderbyniol".
Ond, mae’n debyg bod y difrod yn waeth na’r hyn a gafodd ei adrodd yn y lle cyntaf.
Dywedodd Melissa Boothman, perchennog caffi Secret Garden, bod hen goed derw wedi eu llifio, coed sydd wedi eu plannu er cof am bobl wedi eu dinistrio, tyllau wedi eu llenwi â cherrig a difrod i wifrau rhyngrwyd.
Cafodd arwyddion, planhigion a choed y caffi eu dinistrio hefyd.
Ychwanegodd perchennog y caffi bod y parc yn le arbennig: “Yn ystod Covid, mae wedi bod yn hafan lle oedd pobl Caerdydd yn gallu dianc, yn le lle’r oeddem ni i gyd yn teimlo’n ddiogel".
Mae Ms Boothman wedi bod yn apelio am syniadau a chymorth gan bobl i drwsio’r difrod ac adfer y parc.