Un person ar goll ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro
Mae un person yn parhau ar goll ar ôl mynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro ddydd Sul.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi derbyn adroddiadau am 15:30 ddydd Sul fod tri o bobl mewn trafferthion yn y dŵr yn ardal Marloes yn Sir Benfro.
Fe wnaeth dau o'r tri person lwyddo i achub eu hunain, ond mae un person yn parhau ar goll.
Ychwanegodd y datganiad: "Mae Gwylwyr y Glannau yn cydlynu ymgyrch chwilio fel rhan o ymateb aml-asiantaeth.
"Brynhawn ddoe a neithiwr, roedd timau achub o Aberllydan a Dale yn bresennol, yn ogystal â badau achub o Angl, Dinbych-y-pysgod a Thyddewi a chwch peilot lleol."
Roedd hofrennydd hefyd yn bresennol yn ogystal â'r Gwasanaeth Ambiwlans.
Fe gafodd yr ymgyrch chwilio ei gohirio am 03:30 cyn ail-ddechrau fore Llun.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau nad oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.