O Ferthyr i Istanbwl: Cymro'n cwblhau taith gerdded elusennol 3000 o filltiroedd

O Ferthyr i Istanbwl: Cymro'n cwblhau taith gerdded elusennol 3000 o filltiroedd

Mae'r Cymro Jamie Bevan wedi cwblhau taith gerdded o dros 3,000 o filltiroedd o Ferthyr Tudful i Istanbwl, a hynny i hyrwyddo gwaith Cylch Meithrin y Gurnos, sy’n darparu gofal drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ifanc.

Ar ôl dechrau'r daith ym mis Ebrill, fe gyrhaeddodd Jamie y ddinas yn Nhwrci ddydd Llun. 

Roedd llwybr ei daith yn cynnwys Gwlad Belg, Yr Almaen, Awstria, Slofacia, Hwngari, Serbia a Bwlgaria cyn cyrraedd Twrci wedi pedwar mis a hanner o gerdded.

Wrth rannu ei antur ar-lein, mae Jamie wedi denu miliynau o wylwyr o ar hyd a lled Cymru a'r byd, gan hybu gwaith y cylch meithrin wrth ei daith.

Mae Ystâd y Gurnos yng ngogledd Merthyr Tudful yn un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn y Deyrnas Unedig.

Ar ôl cyrraedd Istanbwl, fe ddywedodd Jamie wrth Newyddion S4C: "Wel erbyn hyn, dwi newydd gyrraedd Istanbwl, dwi’n eistedd mewn gwesty yng nghanol Istanbwl, ma’r daith ar ben.

"Dwi eisiau dweud diolch yn fawr iawn i pawb gartref, a thu hwnt oedd wedi  dangos gymaint o gefnogaeth a diddordeb yn y taith, ma’r GoFundMe ar gyfer Cylch Meithrin y Gurnos, ma’ hwnna lan dros £18,000 a fi’n siŵr dros y dyddie nesa bydd hwnna’n mynd lan eto.

"So diolch o galon, mae ‘na cannoedd a channoedd a channoedd ohonoch chi wedi cyfrannu i hwnna, diolch yn fawr iawn."

Mae Jamie bellach yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i Gymru. 

"Dwi wedi blino a dwi mor gyffrous i bod ‘ma, a wir, fi methu aros i dod nôl adre i Gymru i fy nheulu, i fy ffrindiau, a gweld pawb nôl gartref."

Wrth siarad â Newyddion S4C ym mis Mehefin, fe ddywedodd Jamie fod Cylch Meithrin y Gurnos yn “fwy na lleoliad gofal plant. Mae'n achubiaeth i deuluoedd yn y Gurnos, Merthyr Tudful, ardal lle gall tlodi, heriau cymdeithasol, a diffyg cyfle lunio dyfodol plentyn cyn iddynt hyd yn oed ddechrau ysgol.”

Ychwanegodd fod y gwaith y mae’r staff yn ei wneud gyda’r plant yn “anhygoel”.












 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.