Nepal: Dros 4,000 yn parhau ar goll a mwy na 900 wedi marw
Mae dros 4,000 o bobl yn parhau ar goll yn Nepal a mwy na 900 wedi marw yn dilyn y llifogydd nerthol yn y wlad.
Fe darodd y llifogydd ardal Rasuwa yn Nepal, sy’n ffinio â rhanbarth Tibet yn Tsieina, fore dydd Mercher.
Cyhoeddodd swyddogion fod 4,247 o bobl bellach ar goll, cynnydd sylweddol o'r 2,502 a gafodd ei gyhoeddi ddydd Sul.
O'r rhai sydd ar goll, mae 3,655 yn dod o Nepal, a 592 yn ddinasyddion tramor.
Mae dau yn eu harddegau, merch 13 oed a bachgen 14 oed, ymhlith y 48 o ddinasyddion Prydeinig sy’n parhau heb eu darganfod.
Mae eraill sydd â chysylltiadau â’r DU ac sydd ar goll yn cynnwys nyrs y Gwasanaeth Iechyd, offeiriad Hindŵaidd o dde Llundain a oedd yn arwain taith yn y rhanbarth, a pherson 18 oed o Surrey a oedd newydd gwblhau ei arholiadau Lefel A.
Ymgyrch achub
Mae mwy na 10,000 o bobl wedi cael eu hachub hyd yma, ond y gred yw fod dros 900 o weithwyr ar goll mewn twneli.
Rhybuddiodd awdurdodau Nepal am lefelau dŵr cynyddol yn Afon Bhote Koshi yn rhanbarth Rasuwa ddydd Sul.
Ddydd Sadwrn, anfonwyd tîm ymateb cyflym o’r DU i Nepal i ddarparu cymorth i Brydeinwyr a’u teuluoedd yno.
Bydd y tîm, sy’n cynnwys staff sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i ymateb i argyfyngau, yn gweithio gyda Llysgenhadaeth Prydain ac awdurdodau lleol.
Mae disgwyl i’r tîm helpu i gydlynu cymorth i Brydeinwyr sy’n cyrraedd y maes awyr neu’n gadael y wlad, cefnogi’r rhai sy’n chwilio am wybodaeth am berthnasau sydd ar goll, a gweithio gydag awdurdodau lleol a’r gwasanaethau brys.
Fel rhan o ymateb ehangach y DU i’r llifogydd, sy’n cynnwys £5 miliwn o gymorth dyngarol, bydd y tîm hefyd yn gweithio gyda theuluoedd yn y DU sy’n poeni am anwyliaid yn yr ardal sydd wedi’i heffeithio.
Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod tir garw a glaw wedi ei gwneud hi'n anodd iawn i ddosbarthu cymorth.
