Conwy: Arestio dau ar amheuaeth o ddwyn gwerth miloedd o gardiau rhodd
Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddwyn cannoedd o gardiau rhodd ('gift cards') wedi i'r heddlu stopio car ar yr A55 yn Sir Conwy ddydd Sadwrn.
Fe welodd swyddogion o Uned Plismona'r Ffyrdd gar Toyota Yaris ger Llanddulas, a gofyn i'r gyrrwr eu dilyn.
Fe wnaeth y gyrrwr ddilyn car yr heddlu i ddechrau, ond trodd yn ôl ar yr A55 cyn stopio er mwyn i'r teithiwr gamu allan.
Rhedodd hwnnw i ffwrdd gan geisio dianc ac fe gafodd y car ei stopio eto.
Daeth yr heddlu i wybod fod y car yn gysylltiedig ag achos honedig o dwyll cardiau rhodd, lle roedd y bobl yn y cerbyd wedi dwyn cardiau o siopau yn yr ardal leol.
Wrth chwilio'r cerbyd, cafwyd hyd i nifer mawr o gardiau rhodd mewn dau fag siopa â leinin ffoil ynddynt.
Cafodd y gyrrwr a'r teithiwr eu harestio gyda'r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa.
Y gred yw bod y cardiau rhodd yn werth miloedd o bunnoedd petai nhw wedi cael eu defnyddio.
Llun: Uned Plismona'r Ffyrdd, HGC
