Yr UDA ac Iran yn ymladd eto wedi mis o heddwch bregus

Culfor Hormuz

Mae lluoedd arfog Unol Daleithiau America ac Iran wedi gwrthdaro eto yn Nghulfor Hormuz yn dilyn mis o heddwch bregus rhwng y ddwy wlad.

Fe ymosododd lluoedd yr UDA ar arfau tanio rocedi Iranaidd ar Ynys Larak yn y culfor - sydd yn ynys hanfodol ar gyfer allforio olew o Iran.

Bwriad yr ymosodiad "cyfyngedig ond manwl", meddai penaethiaid lluoedd America, oedd atal lluoedd Gwarchodlu Chwyldroadol Iran rhag gosod ffrwydron yng Nghulfor Hormuz.

Roedd y rhain yn peri "bygythiad uniongyrchol" i longau oedd yn hwylio yn y rhanbarth, meddai America.

Dywedodd arweinwyr Iran bod nifer o filwyr wedi marw yn yr ymosodiad, gyda'r wlad yn talu'r pwyth yn ôl drwy ymosod ar ddwy ganolfan filwrol yr UDA yn yr Iorddonen.

Mae'r Emiradau Arabaidd Unedig wedi beirniadu'r trais rhwng y ddwy wlad, gan alw ar Iran i beidio ag anfon dronau milwrol dros eu tiriogaeth.

Daeth y cyhoeddiad wedi i Iran honni eu bod wedi ymosod ar faes awyr milwrol Americanaidd yn Al Minhad - rhywbeth y mae'r Emiradau Arabaidd Unedig yn ei wadu.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Washington wedi dwysau eu hymdrechion i roi pwysau economaidd ar Tehran drwy gyflwyno sancsiynnau newydd.

Y disgwyl yw y bydd rhagor o sancsiynnau yn cael eu cyflwyno yn ystod y dyddiau nesaf, gan ganolbwyntio ar fanciau Iranaidd i ddechrau.

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.