Newyddion S4C

Dawnsio gydag un o sêr Strictly yn brofiad ‘anhygoel’

18/09/2021

Dawnsio gydag un o sêr Strictly yn brofiad ‘anhygoel’

Fe fydd Strictly Come Dancing yn dychwelyd am gyfres newydd ddydd Sadwrn.

Mae’r gyfres wedi ei darlledu ers 2004 gan ddod â dawnsio ballroom a lladin i gynulleidfa ehangach.

Ond, i gystadleuwyr ar lawr gwlad, mae’r flwyddyn a hanner diwethaf wedi bod yn heriol tu hwnt gyda pherfformiadau a chystadlaethau wedi eu canslo yn sgil y pandemig.

Mae Nellie, 13, o Gaerffili, wedi bod yn dawnsio ers oedd hi’n dair oed ac mae hi’n aelod o’r grŵp dawns KLA Dance.

I Nellie, mae dawnsio wedi bod yn rhan o’i bywyd ers blynyddoedd.

“Pan fi’n edrych ar y fideos pan oedd fi fel yn fach, roedd fi trwy’r amser yn dawnsio, trwy’r amser yn rhoi sioe ‘mlaen so mae’n kind of rhywbeth dwi’n destined i fod”, dywedodd wrth Newyddion S4C.

Image
Nellie & Oti - Llun BBC
Bu Nellie yn cystadlu ar gyfres The Greatest Dancer gyda’r dawnsiwr proffesiynol Oti Mabuse.
(Llun: BBC)

Yn 2019, fe gyrhaeddodd grŵp o wyth o aelodau, gan gynnwys Nellie, rownd derfynol y rhaglen The Greatest Dancer.

Fel rhan o’r gyfres bu’r criw yn perfformio dan gapteniaeth Oti Mabuse, un o ddawnswyr proffesiynol Strictly Come Dancing.

Roedd dawnsio ochr yn ochr ag un o’i harwyr yn brofiad swreal i Nellie.

“Ni’n trwy’r amser wedi gwylio Strictly so i fel actually cwrdd â Oti, roedd e’n like ‘Waw, waw, waw, waw!’”

“Roedd e’n amazing achos roedd e jyst yn rhoi boost mewn confidence i ni gyd a roedd ni gwneud yn rili dda a wedi mynd yn bell iawn a dydyn ni ddim yn expecto fe. 

“Roedden i fel, fi’n credu roedd fi’n 10, a roedd rhai o’r merched roedden ni’n naw, 10, 11, 12, so roedd e fel ‘Waw, beth sy’n mynd ymlaen’ achos roedd ni obviously wedi cwrdd â Oti, Cheryl, Alesha, roedd e’n amazing”.

Image
Nellie & Ava - LLun cyfrannydd
Mae Nellie yn falch fod cystadlaethau dawnsio lladin a ballroom yn ail-ddechrau. 
(Llun cyfrannydd)

Mae’r cyfnod clo wedi gorfodi newid i’r ffordd mae cystadlaethau dawns yn cael eu cynnal, gyda chystadlaethau a gafodd eu cynnal dros y 18 mis diwethaf yn symud ar-lein.

“Roedd chi ddim ond yn gallu gweld y judges a wedyn pan roedd e’n tro ti i ddawnsio, roedd nhw jyst yn ado ti wedyn ymlaen i’r Zoom a roedd nhw wedyn yn marcio ni fel hwnna. 

Ychwanegodd Nellie: “Roedd rhai o cystadleuthau ble roedd chi’n mynd i stwidio, ffilmio pob dawns a wedyn roedd rhaid i chi pan chi’n mynd i entro’r cystadleuaeth, roedd chi jyst yn rhoi fideos am pa dawns roedd nhw’n gofyn am”.

Dywedodd Ysgrifennydd DanceSport Wales, Michael Webley, fod addasu gweithgareddau yn unol â’r cyfyngiadau wedi bod yn heriol.

Dywedodd Mr Webley wrth Newyddion S4C: “Roedd y cyfyngiadau gwreiddiol yn golygu nad oedd cyplau yn gallu cyffwrdd â’i gilydd a pan oedd hawl gwneud roedd cyfyngiadau yn parhau ar y symudiadau roedd hawl ganddynt i’w wneud oherwydd, wrth gwrs, roedd gan yr holl ddawnswyr routines gwahanol nad oedd modd eu cynnal oherwydd yr ymbellhau cymdeithasol rhwng cyplau a oedd wedi ei orfodi gan y gyfraith”.

“Nawr bod pethau wedi eu llacio, mae pethau’n dechrau agor unwaith eto”, ychwanegodd.

Image
Nellie & Oti - Llun Cyfrannydd
Daeth Oti Mabuse i un ogyflwyniadau KLA Dance. 
(Llun cyfrannydd)

Ond wedi misoedd heb gystadlaethau, y penwythnos hwn fe fydd cystadleuaeth grŵp cyntaf Nellie wyneb yn wyneb ers cyn y pandemig.

“Ni’n cael competition wedyn ar y penwythnos so, nawr ni ‘di mynd nôl back a ni yn y stiwdio, mae ‘di bod yn rush achos ni ddim ‘di dawnsio gyda phartner neu yn tîm achos ni ‘di bod yn cyfnod clo.

“So oedd hwnna’n rili anodd a even though pan oedd ni yn dod ‘nôl i stiwdio, roedd dal cadw dau metre, dyn ni ddim yn gallu cyffwrdd ein gilydd, mygydau.  Roedd e dal yn anodd”.

Fe fydd Strictly Come Dancing yn dychwelyd i BBC One am 19:45 nos Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.