Ffrainc i alw llysgenhadon i'r UDA ac Awstralia yn ôl
Mae Ffrainc wedi galw ei llysgenhadon i Unol Daleithiau'r America ac Awstralia yn ôl, mewn cam hynod anarferol rhwng gwledydd cynghreiriol.
Daw hyn yn sgil ffrae am bartneriaeth ddiogelwch newydd rhwng y Deyrnas Unedig, yr UDA ac Awstralia, yn ôl Sky News.
Daeth y cyhoeddiad gan weinidog tramor Ffrainc, Jean-Yves Le Drian, yn dilyn y cytundeb rhwng y dair gwlad - sy'n ceisio cynorthwyo Awstralia i gael gafael mewn llongau tanfor niwclear.
Dywedodd Mr Le Drian fod penderfyniad Awstralia i ganslo cytundeb i brynu llongau tanfor arferol o Ffrainc er mwyn prynu rhai niwclear wedi eu hadeiladu gyda thechnoleg yr UDA yn "ymddygiad annerbyniol".
Dywedodd swyddog o'r Tŷ Gwyn fod yr UDA yn siomedig gyda phenderfyniad Ffrainc i dynnu ei llysgenhadon yn ôl ac maent wedi cysylltu â phartneriaid yn Ffrainc.
Darllenwch y manylion yn llawn yma.