Prif ffordd yn y gogledd wedi ail-agor ar ôl i bibell ddŵr fyrstio
29/08/2026
Mae un o brif ffyrdd y gogledd wedi ail-agor ar ôl i bibell ddŵr fyrstio.
Dywedodd Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth fod yr A470 wedi’i chau i'r ddau gyfeiriad yn Nolwyddelan ers tua 17:30 nos Wener.
Ychwanegodd yr asiantaeth ei bod yn debygol y byddai'r ffordd ar gau tan tua hanner dydd, ddydd Sadwrn.
Fe gyhoeddodd yr asiantaeth fod y ffordd wedi ail agor toc wedi 13:00 ddydd Sadwrn.
Roedd yr asiantaeth wedi cynghori teithwyr i osgoi’r ardal tra bod y ffordd ar gau ac i ddefnyddio dargyfeiriadau ar hyd yr A5 a’r A494 drwy Gerrig-y-drudion yn y cyfamser.
Llun: X/Traffig Cymru Gogledd a Chanolbarth