Newyddion S4C

Ysbyty Seiciatryddol Dinbych i’w droi yn fflatiau

Newyddion S4C 18/09/2021

Ysbyty Seiciatryddol Dinbych i’w droi yn fflatiau

Dros chwarter canrif ers i Ysbyty Gogledd Cymru gau, mae ganddo le arbennig o hyd yng nghof tref Dinbych.

Ar safle eiconig sydd wedi gweld dyddiau gwell, mae cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo i ddatblygu’r adeilad rhestredig yn fflatiau a siopau, gyda 300 o dai newydd ar dir cyfagos.

Er bod nifer o bobl yn croesawu’r newyddion, mae rhai yn bryderus am y pwysau ychwanegol ar wasanaethau ac ar y ffyrdd.

Mae’r cynlluniau, sy’n cael eu datblygu gan gwmni lleol Jones Brothers, yn brosiect hirdymor, gyda disgwyl i’r gwaith gymryd degawd i’w gyflawni.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, Ward Canol Dinbych: “Mae’r swm yna o dai, faint y nifer o dai, ma hwnna yn enfawr a bydd yn creu, mewn ffordd, pentre newydd."

Yn ôl y cynghorydd, mae pryder nad oes sôn am dai fforddiadwy yn y cynlluniau.

Mae’r cyngor sir yn dweud y bydd yr elw o werthu’r tai yn talu am y gwaith o gynnal yr adeiladau hanesyddol.

‘Ysbryd cymunedol’

Mae’r adeilad eiconig yn agos iawn at galonnau pobl y dref.

Roedd gŵr Delyth Trevelyan yn gweithio yn yr ysbyty fel meddyg.

Yn ôl Ms Trevelyan, mae'r ysbyty yn ran o “ysbryd cymunedol” y dref.

Dywedodd Rhian Owen y bydd yn hwb i fusnesau’r dref.

“Bydd o’n fwy o busnes, yn bydd? Siop bara, llyfrgell... ar ôl i’r ysbyty fynd, mae lot o lefydd wedi cau lawr a mae o’n bechod.”

Dywedodd Cavan Shakespeare: “Mae angen lot o dai i’r ieuenctid. Mae prisiau tai yn ddrud, so mae o am helpu pobl ffindio traed nhw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.