Newyddion S4C

Cynnal ymchwiliad ar ôl i wyau gael eu taflu ar ddynion tu allan i fosg

ITV Cymru 17/09/2021

Cynnal ymchwiliad ar ôl i wyau gael eu taflu ar ddynion tu allan i fosg

Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl i wyau gael eu taflu ar grŵp o ddynion yn gadael mosg yng Nghaerdydd.

Cafodd y pedwar dyn eu targedu tra’n gadael Canolfan Al-Manar Caerdydd yn Cathays yn dilyn y weddi olaf nos Iau.

“Roedden ni newydd gamu tu fas o fosg Al-Manar ar ôl gweddi Esha. Roeddwn i’n siarad gyda’n ffrind, pan mwyaf sydyn, dyma na gar arian yn tynnu fewn i ochr y ffordd o’n blaenau ni,” meddai llygad dyst oedd ddim am barhau’n anhysbys.

Dywedodd tyst arall: “Yn ystod y digwyddiad roeddwn i’n wynebu Neuadd Senghennydd, felly o ni’n gallu gweld y cerbyd yn pasio heibio gyda rhywun wrth y ffenest wnaeth daflu’r wyau.

“Tra’n aros yna fe glywais i rywun yn gweiddi ‘Oi!’ cyn mynd ymlaen i daflyd wyau i’n cyfeiriad ni. Rwy’n ddiolchgar na wnaeth yr wyau daro’r un ohonon ni.”

Image
mosg
Cafodd y pedwar dyn eu targedu yn dilyn y weddi olaf nos Iau (Llun: Google)

Ychwanegodd y rhai gafodd eu targedu eu bod nhw wedi synnu, drysu ac yn flin o ganlyniad i’r digwyddiad.

Maen nhw hefyd yn bryderus am y gymuned ehangach, gyda’r heddlu yn cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio ar hyn o bryd.

Dywedodd un ohonynt: “Dyw’r mosg ddim yn llawn o bobl trwy’r adeg, ac rydyn ni’n mynd fewn ag allan yn ddibynnol ar amseroedd gweddi. Mae’n rhaid bod y rhai sy’n gyfrifol yn ymwybodol o amseroedd y weddi a pryd byddai pobl yn dechrau dod allan.

“Ein pryder mwyaf yw bod islamaphobia ar gynnydd ac rydyn yn ofni y gallai’r digwyddiad yma ddigwydd eto, ac efallai mewn ffordd waeth a fwy perygl. Mae’r gymuned Fwslimaidd mewn risg.”

‘Trosedd casineb a dim byd arall’

Ychwanegodd yr unigolyn ei fod yn credu i’r digwyddiad fod yn “drosedd casineb a dim byd arall”.

Dywedodd Ymddiriedolwr Rheoli Canolfan Al-Manar, Barak Adnan Albayaty: “Rydym yn gobeithio fod y weithred anwaraidd o’r fath yma yn un ynysig. Mae Canolfan Al-Manar yn parhau’n ymroddedig i hyrwyddo cydlyniant ymhlith cymuned amrywiol Caerdydd.”

Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau y byddant yn patrolio’r ardal o amgylch y mosg dros y penwythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Yn fuan wedi 21:20 neithiwr, cafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad ar Stryd Glynrhondda, Cathays, yn dilyn adroddiadau fod wyau wedi cael eu taflu ar grŵp o bobl.

“Mae’r digwyddiad yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd.”

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio’r cyfeirnod *327451.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.