Rhybudd bod sylweddau annisgwyl mewn canran uchel o gyffuriau yng Nghymru

labordy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio am beryglon y farchnad cyffuriau anghyfreithlon wedi i brofion ddarganfod bod traean y samplau o gyffuriau yng Nghymru yn cynnwys sylweddau annisgwyl.

Roedd mwy nag un o bob tri sampl o gyffuriau gafodd eu profi gan y gwasanaeth iechyd yn cynnwys sylweddau gwahanol i'r hyn roedd y prynwr yn ei ddisgwyl.

Yn ôl adroddiad blynyddol Gwasanaeth Adnabod Cyffuriau Newydd Cymru (WEDINOS), roedd 36.6% o'r samplau cymunedol lle'r oedd bwriad prynu yn hysbys, yn cynnwys sylweddau gwahanol i'r hyn oedd yn ddisgwyliedig.

Mae'r adroddiad yn edrych ar samplau gafodd eu cyflwyno i'r gwasanaeth rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.

Am y tro cyntaf, mae'r gwasanaeth hefyd wedi adnabod opioidau synthetig cryf o'r enw analogau orffin.

Cafodd yr opioidau hyn eu canfod, ynghyd â thawelyddion milfeddygol (veterinary sedatives), mewn rhai cyffuriau gan gynnyws heroin.

Mae gwasanaeth WEDINOS  hefyd yn parhau i ganfod nitazenau, bensodiasepinau newydd sy'n cael eu gwerthu fel diazepam, a chanabinoidau synthetig mewn cynhyrchion sy'n cael eu gwerthu fel THC, CBD neu fêps canabis.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio y gall sylweddau o'r fath achosi niwed a chynyddu'r perygl o orddos damweiniol.

'Pryder penodol'

Mae presenoldeb opioidau synthetig cryf yn y farchnad gyffuriau yn peri "pryder penodol", yn ôl yr adroddiad, oherwydd y risg uwch o orddos damweiniol.

Mae nitazenau wedi bod yn destun pryder ymhlith gweithwyr iechyd a gwasanaethau cyffuriau ers sawl blwyddyn, ond mae'r adroddiad diweddaraf yn tynnu sylw at analogau orffin fel bygythiad sy'n dod i'r amlwg ym marchnad gyffuriau anghyfreithlon y DU, medda'ir GIG.

Bensodiasepinau oedd y grŵp o sylweddau gafodd eu hadnabod amlaf mewn samplau gafodd eu hanfon at WEDINOS, a diazepam sydd â'r nifer fwyaf o samplau.

Yn ôl WEDINOS, mewn nifer o achosion roedd y cynhyrchion wedi cael eu prynu gan fferyllfeydd ar-lein ac yn edrych yn union yr un fath â chynhyrchion o ffynonellau cyfreithlon, ond nid oeddent yn cynnwys yr hyn oedd yn cael ei hysbysebu.

Mae'r gwasanaeth iechyd yn annog pobl i ddefnyddio meddyginiaethau sydd wedi cael eu rhoi iddynt gan eu meddyg teulu a'u dosbarthu gan feddyg neu fferyllfa yn unig.

43% o samplau fêps

Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at sylweddau annisgwyl mewn cynhyrchion fêps anghyfreithlon.

Roedd 43% o'r cynhyrchion vape THC, CBD neu ganabinoid gafodd eu cyflwyno i WEDINOS yn cynnwys gweithyddion derbynyddion canabinoid synthetig (SCRAs), sydd weithiau'n cael eu hadnabod fel 'Spice'.

Gall y sylweddau hyn achosi effeithiau cyflym a difrifol, gan gynnwys gorbryder a phanig, seicosis, rhithweledigaethau a ffitiau.

Dywedodd Rick Lines, Pennaeth Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod gwaith WEDINOS dros y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos unwaith eto "anwadalrwydd parhaus marchnadoedd cyffuriau anghyfreithlon".

“Mae ein gwaith yn WEDINOS dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos unwaith eto pa mor anwadal yw’r marchnadoedd cyffuriau anghyfreithlon, a’r lefel uchel o amnewidiadau o fewn y farchnad a all gynyddu’r risg o sgil-effeithiau a gorddos damweiniol," meddai.

"Yn benodol, y cynnydd mewn canfod analogau orffin cryfder uchel – rhai ohonynt heb eu gweld erioed o'r blaen gan WEDINOS - yn parhau i dynnu sylw at bryderon ynghylch presenoldeb opiadau synthetig cryfder uchel ym marchnad gyffuriau'r DU.

“Mae’r gwaith lleihau niwed i iechyd y cyhoedd y mae WEDINOS yn rhan ohono, ochr yn ochr â phartneriaid o bob cwr o Gymru a’r DU ehangach, yn hanfodol bwysig er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth o fygythiadau sy’n dod i’r amlwg ac i leihau’r risg o orddos damweiniol.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.