Starmer yn cyfrannu bywgraffiad o'i hun i lyfrgell Downing Street

Keir Starmer tu allan i Downing Street, a llyfr amdano

Bywgraffiad am Syr Keir Starmer yw’r llyfr diweddaraf i gyrraedd silffoedd 10 Downing Street, wedi i’r cyn-Brif Weinidog ei hun gyfrannu copi i lyfrgell arbennig y tŷ byd enwog.

Ers bron i ganrif, mae prif weinidogion a gweinidogion yn cael cynnig rhoi llyfr i’w gadw yn y llyfrgell unigryw yn Ystafell y Cabinet, sydd bellach yn gartref i dros 400 o gyfrolau.

Penderfynodd Syr Keir ychwanegu llyfr y newyddiadurwr Tom Baldwin, Keir Starmer: The Biography, i’r casgliad, yn ôl y BBC.

Cyfrannodd saith o gyn-weinidogion y cyn-arweinydd Llafur lyfrau i’r silffoedd, gan gynnwys cyn-ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens.

Ei dewis hi oedd The Fed: A History of the South Wales Miners in the Twentieth Century gan Hywel Francis a Dai Smith.

Un arall gynigiodd gyfrol oedd Nick Thomas-Symonds, AS Torfaen a gweinidog dros yr Undeb Ewropeaidd yn y llywodraeth. Yn ôl adroddiad y BBC, fe ddewisiodd un o’i lyfrau ei hun - bywgraffiad o’r Prif Weinidog Llafur Harold Wilson, gafodd ei gyhoeddi yn 2022.

Dydy penderfyniad Mr Thomas-Symonds ddim yn gwbl unigryw - mae sawl gwleidydd arall wedi rhoi un o’u llyfrau’u hunain yn y llyfrgell, gan gynnwys yr arweinwyr Toriaidd, Boris Johnson, Margaret Thatcher a Winston Churchill.

Mae ambell i lyfr yn y casgliad sy’n sôn am Gymru’n benodol.

Cyfraniad H A Marquand - Llafurwr blaenllaw o Gaerdydd oedd yn AS rhwng 1945 a 1961 - oedd ei lyfr South Wales Needs a Plan o 1936. Fe roddodd Cledwyn Hughes, AS Ynys Môn rhwng 1951 a 1979, gopi o gyfrol Kenneth Morgan, Wales in British Politics 1868-1922.

Cychwynnodd y traddodiad o gyfrannu llyfrau at y llyfrgell yn 1931. Wedi cyfnod segur, gafodd yr arferiad ei ailgynnau gan Mr Johnson yn 2021.

Llun: PA, Stefan Rousseau / Deunyddiau hyrwyddo

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.