Y Swyddfa Dywydd yn gofyn i'r cyhoedd i ddewis cymeriad o gyfres Shaun The Sheep ar gyfer enw storm
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi gwahodd y cyhoedd i ddewis rhwng dau gymeriad o gyfres Shaun The Sheep ar gyfer enw storm yn y dyfodol.
Bydd y dewis rhwng yr enwau Shaun a'i gefnder, Timmy, ar gyfer lle ar restr swyddogol y Swyddfa Dywydd ar gyfer stormydd yn ystod tymor 2026/27.
Mae'r swyddfa yn cydweithio â'r stiwdio animeiddio Aardman, sy'n cynhyrchu Shaun The Sheep a hefyd cyfres Wallace & Gromit.
Bydd modd pleidleisio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Swyddfa Dywydd rhwng dydd Mercher a dydd Gwener.
Fe fydd yr enw buddugol yn cael ei gyhoeddi ar 1 Medi, ond efallai na fydd storm o'r enw Shaun neu Timmy yn ystod tymor 2026/27, gan fod stormydd yn cael eu henwi yn nhrefn yr wyddor.
Llythyren 'L' yw'r pellaf mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyrraedd ar y rhestr, wrth i Storm Lilian daro rhannau o ogledd Cymru ym mis Awst 2024.
'Cyrraedd mwy o bobl'
Dywedodd pennaeth rhybuddion a chanllawiau'r Swyddfa Dywydd, Holly Clements, fod enwi stormydd yn ffordd dda o ddenu sylw'r cyhoedd at dywydd peryglus.
"Mae'n helpu ein rhybuddion tywydd i gyrraedd mwy o bobl ac yn annog y cyhoedd i gymryd sylw pan mae tywydd garw yn agosáu," meddai.
"Mae'r cydweithio hwn gydag Aardman yn rhoi cyfle gwych i ni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac esbonio pam mae enwi stormydd yn bwysig, oherwydd ei fod yn helpu pobl i ddeall y peryglon y gall tywydd garw eu hachosi a pha gamau maen nhw'n gallu eu cymryd i aros yn ddiogel."
Cafodd mwy na 50,000 o enwau gwahanol eu hawgrymu i'r Swyddfa Dywydd y llynedd, gan gynnwys enwau fel Stormy McStormFace, Dame Judi Drench a David Blowy.
Dim ond 21 enw a gafodd eu dewis, gan gynnwys enwau fel Amy, Dave, Stevie a Violet.
Dechreuodd y Swyddfa Dywydd enwi stormydd yn 2015 ac maen nhw'n gweithio gyda gwasanaeth meteorolegol Iwerddon, Met Éireann, a KNMI, gwasanaeth tywydd cenedlaethol yr Iseldiroedd, i ddatblygu'r rhestr o enwau stormyddbob blwyddyn.
