Tad a fu farw ar ôl mynd i drafferthion yn y môr yn ne ddwyrain Lloegr yn ffoadur o Balesteina

19/08/2026
Marwolaethau Sussex

Ffoadur o Balesteina oedd tad a fu farw ynghyd â'i bartner a’i ferch ar ôl mynd i drafferthion yn y môr yn ne ddwyrain Lloegr

Cafodd Hassan El-Khawas, 55 oed, Zeina Alayn, 37 oed, a Sara El-Khawas, 14 oed, eu henwi gan Heddlu Sussex brynhawn Mercher.

Y gred yw i'r teulu fynd i’r môr i nofio yn Shoreham-by-Sea, Gorllewin Sussex, brynhawn Mawrth.

Cafodd yr heddlu, parafeddygon, gwylwyr y glannau a'r bad achub eu galw i safle'r digwyddiad lle cafodd pedwar o bobl eu tynnu o’r dŵr.

Bu farw Mr El-Khawas, Ms Alayn a Ms El-Khawas yn y fan a'r lle, a chafodd merch ifanc ei chludo i’r ysbyty mewn cyflwr critigol.

Mae'r ferch ifanc yn parhau i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

Dywedodd y llysgenhadaeth fod y tad yn dod o wersyll Rashidieh yn Libanus.

Mae Gwersyll Rashidieh ar arfordir Môr y Canoldir yn ne Libanus, ac mae’n un o wersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd mwyaf y wlad.

Peryglon nofio mewn dŵr agored

Yn gynharach ddydd Mercher, rhybuddiodd Andy Burnham am beryglon nofio mewn dŵr agored yn dilyn y digwyddiad.

"Y peth y gallaf ei ddweud heddiw - ac rwy’n meddwl bod ton wres arall i ddod o hyd yn ystod cyfnod yr haf hwn - yw atgoffa pobl am beryglon nofio mewn dŵr agored," meddai Prif Weinidog y DU.

"Gall y dŵr oer, hyd yn oed pan mae’n teimlo’n boeth y tu allan, beri sioc i bobl a gall hynny achosi anawsterau. Felly, mae angen i bobl gofio hynny bob amser."

Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi enwau’r rhai fu farw, ond dywedodd fod swyddogion arbenigol yn cefnogi eu perthnasau agosaf. 

Dywedodd llysgenhadaeth Palesteina ei bod hefyd mewn cysylltiad â’r teulu ehangach.

Mewn datganiad ar Facebook, dywedodd y llysgenhadaeth ei bod yn "monitro’r digwyddiad yn agos".

"Wrth i’r llysgenhadaeth estyn ei chydymdeimlad dwysaf i deulu’r dioddefwyr, eu hanwyliaid, ac aelodau o’r gymuned Balesteinaidd yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod poenus hwn, mae’n dymuno gwellhad buan i’r ferch a gafodd ei hanafu," meddai’r datganiad.

Dywedodd AS Dwyrain Worthing a Shoreham, Tom Rutland, fod pawb yn yr ardal wedi’u "syfrdanu a’u tristáu" gan y digwyddiad.

"Mae’n rhy gynnar i wybod yn union beth achosodd y trafferthion ddoe a arweiniodd at y marwolaethau trasig, ond rwy’n meddwl bod modd gwneud mwy bob amser i addysgu pobl am ddiogelwch yn y dŵr," meddai.

"Rwy’n meddwl bod gan bobl sy’n byw ger y môr, ar y cyfan, ddealltwriaeth dda o’r peryglon y gall eu hachosi, ond mae angen sicrhau bod gan bawb yn y wlad yr un wybodaeth, gan fod pobl wrth eu bodd yn dod i’r arfordir yn ystod yr hafau poeth rydyn ni wedi bod yn eu cael."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.