Arddangos gwartheg yn Sioe Sir Benfro wedi heriau tiwmor ar yr ymennydd
Mae teulu o orllewin Cymru wedi dweud bod y fferm a’r cylch sioeau wedi rhoi “bach o normalrwydd” iddyn nhw ar ôl i’w mab gael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd.
Mae Siân a Simon Davies yn rhedeg Fferm Brynhyfryd yn Efailwen, ar y ffin rhwng Sir Gâr a Sir Benfro, gyda’u meibion Isaac ac Elliott.
Mae’r teulu’n godro tua 250 o wartheg ac yn magu gwartheg Holstein pedigri o dan yr enw Castellhyfryd.
Maen nhw wedi bod yn paratoi nifer o’u gwartheg i’w harddangos yn Sioe Sir Benfro eleni.
Image
Teulu Brynhyfryd gyda Nigel Owens yn ystod digwyddiad codi arian In It With Isaac (Llun: Evie Tomlinson)
Dywedodd Simon fod y gwaith dyddiol ar y fferm wedi rhoi rhywbeth arall i’r teulu ganolbwyntio arno drwy gyfnod anodd.
“Trwy’r amser caled, mae’r gwartheg yn mynd ymlaen. Mae rhywbeth arall i ni feddwl hefyd, a jyst i helpu cadw ni’n mynd trwy bethau,” meddai.
Diagnosis annisgwyl
Fe ddechreuodd y teulu sylwi nad oedd Isaac yn teimlo fel arfer yn ystod Sioe Frenhinol Cymru yn 2024.
Roedd yn anarferol o flinedig ac, ar 1 Tachwedd y flwyddyn honno, fe gafodd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd.
Roedd Isaac yn gapten ar dîm ieuenctid Clwb Rygbi Crymych ac yn ffermwr ifanc brwd.
Image
Roedd wedi chwarae rygbi ar y dydd Iau, ond erbyn oriau mân bore Gwener roedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys.
Cafodd lawdriniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd cyn derbyn chwe wythnos o therapi pelydrau proton yn Llundain a phedwar mis o gemotherapi.
Dywedodd Siân fod ei mab yn parhau i weithio’n galed ar ei adferiad.
“Mae Isaac yn gweithio’n galed yn physio bron pob dydd rili. Mae e’n wella pob wythnos rili.
“So, bydd e’n neis ei weld e nôl yn arwain y da a pethau fel ’na yn y dyfodol.”
‘Bach o normalrwydd’
Pan oedd Siân a Simon yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty gydag Isaac, fe ysgwyddodd Elliott fwy o gyfrifoldeb ar y fferm ochr yn ochr â’i arholiadau Safon Uwch.
Fe wnaeth staff, cymdogion a ffrindiau hefyd helpu gyda’r gwaith a’r shifftiau godro.
Image
Er gwaethaf yr hyn oedd yn digwydd, fe barhaodd Elliott i baratoi ac arddangos gwartheg mewn sioeau.
Mae enwau’r ddau frawd bellach ar yr un darian yn Hwlffordd, ar ôl i Isaac ennill yn 2023 ac Elliott yn 2025.
Un o uchafbwyntiau Isaac oedd ennill yn y Welsh Dairy Show, yn ogystal â chystadlu yn Sioe Frenhinol Cymru.
Dywedodd Siân fod dychwelyd i Sioe Sir Benfro a chymryd rhan yn y cylch sioeau wedi bod yn bwysig i’r teulu.
“Roedd e’n bwysig i ni, fi’n credu fel teulu, cadw mynd, trio bod yn bositif, bach o normalrwydd falle.
“Mae’n siawns i ni gwrdd lan â lot o bobl, a lot o bobl lleol rili. So, mae’n bwysig.”
Cefnogaeth y gymuned
Yn dilyn diagnosis Isaac, sefydlodd y teulu ymgyrch In It With Isaac i godi arian i’r elusennau a’r sefydliadau oedd wedi ei gefnogi drwy ei driniaeth.
Image
Isaac a'i fam, Siân Davies
Cafodd mwy na £75,000 ei godi yn ystod diwrnod codi arian ym mis Awst 2025.
Roedd y digwyddiadau’n cynnwys gêm rygbi rhwng timau ieuenctid Crymych a Sir Benfro, gydag Nigel Owens yn dyfarnu, arwerthiant addewidion a thaith feicio o Garreg Waldo i Grymych.
Dywedodd y teulu eu bod am ddiolch i’r sefydliadau sydd wedi helpu Isaac, a sicrhau bod yr un gefnogaeth ar gael i bobl eraill yn y dyfodol.
Bydd rhaglen o uchafbwyntiau Sioe Sir Benfro am 21:00 nos Iau ar S4C, S4C a BBC iPlayer