Cwpl o Brydain wedi marw mewn damwain hofrennydd yn ystod eu mis mêl yng Ngwlad Groeg

Marie Ebert ac Alexander Cromie
Alexander Cromie a Marie Ebert

Mae cwpl ifanc o Brydain a oedd ar eu mis mêl, a’u peilot, wedi marw mewn damwain hofrennydd ar ynys Sifnos yng Ngwlad Groeg ddydd Llun, yn ôl Heddlu Gwlad Groeg.

Dywedodd yr heddlu fod Alexander Cromie a Marie Ebert ar eu ffordd i'r ynys mewn hofrennydd pan ddigwyddodd y ddamwain.

Achosodd y ddamwain dân yn ardal Tholos ar ynys Sifnos nos Lun, yn ôl adroddiad gan The Associated Press.

Dywedodd swyddog heddlu yn Athen wrth The Times fod y ddamwain wedi digwydd funudau yn unig, cyn yr oedd yr hofrennydd i fod i lanio am 18.15.

Roedd lluniau camera cylch cyfyng yn dangos yr hofrennydd yn mynd allan o reolaeth, cyn syrthio i'r ddaear a ffrwydro'n fflamau.

Image
Damwain hofrennydd Sifnos
Safle'r ddamwain ar ynys Sifnos (Llun: Reuters)

Cyhoeddodd Heddlu Gwlad Groeg mai enwau'r cwpl yw Alexander Cromie a Marie Ebert, tra bod y peilot wedi’i enwi’n lleol fel Giorgos Raikos.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran cwmni Blackstone, lle’r oedd Mr Cromie yn gweithio: "Rydym wedi ein syfrdanu gan farwolaeth drasig tri o bobl, gan gynnwys ein cydweithiwr Alex Cromie a’i wraig Marie Ebert, a oedd yn dathlu eu mis mêl.

"Roedd Alex yn cael ei garu gan bawb a oedd yn ei adnabod ac yn gweithio gydag ef yn Blackstone, ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’i anwyliaid."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Rydym yn darparu cymorth ac mewn cysylltiad ag awdurdodau Gwlad Groeg."

Prif lun: Cyfryngau cymdeithasol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.