Criwiau yn dal i ymateb i chwech o danau gwyllt yn ne Cymru

tan

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn dal i ymateb i chwech o danau gwyllt ar hyd y rhanbarth.    

Yn ôl y gwasanaeth, mae pump o'r tanau hynny yn rhai sylweddol eu maint, yn cynnwys Penderyn yn Hirwaun, Blaenafon, Treherbert, Cwm, a Dowlais ger Merthyr Tudful.

Mae'r tân yn Wattsville, Caerffili, yn cael ei fonitro ar hyn o bryd.  

Mae criwiau tân o ardaloedd ar hyd a lled y DU yn cynorthwyo gyda'r gwaith o reoli'r tanau yn y de, ac mae aelodau o'r fyddin yn cynorthwyo yn Nhreherbert a Dowlais.  

Mae Gwasanaeth Tân y De yn pwysleisio nad oes modd hedfan unrhyw awyren, hofrennydd neu ddronau personol dros yr ardaloedd sydd â thanau gwyllt. 

Ac mae'n nhw'n annog trigolion lleol, tirfeddiannwyr ac ymwelwyr i ymddwyn ym gyfrifol er mwyn atal rhagor o danau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.