Un achos o salmonela yng Nghymru wedi i wenwyn bwyd gael ei gysylltu ag wyau
Mae un achos o salmonela wedi’i gadarnhau yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac un person arall wedi marw wedi i wenwyn bwyd effeithio ar gannoedd o bobl ledled y DU a allai fod yn gysylltiedig ag wyau, yn ôl swyddogion iechyd.
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi agor ymchwiliad i 207 o achosion yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda'r mwyafrif ohonyn nhw wedi eu cofnodi yn yr wythnosau diwethaf.
Dywedodd yr asiantaeth y gallai’r achos o salmonela fod yn gysylltiedig ag wyau sydd wedi’u mewnforio o wledydd tu allan i’r DU.
Ychwanegodd yr asiantaeth iechyd fod un person wedi marw mewn cysylltiad â’r achos.
Mae salmonela fel arfer yn achosi salwch gastroberfeddol, gyda symptomau yn cynnwys crampiau yn y stumog, dolur rhydd (diarrhoea), chwydu neu dwymyn.
Cafodd mwy na thraean o’r bobl sydd wedi dioddef symptomau (38%) eu cludo i’r ysbyty, gyda dau berson yn datblygu heintiau yn y llif gwaed.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod 207 o achosion wedi’u cadarnhau rhwng 11 Awst y llynedd ac 1 Awst eleni.
O’r rheini, roedd 199 yn Lloegr, chwech yn yr Alban, un yng Nghymru ac un yng Ngogledd Iwerddon.
Yr ardaloedd yn Lloegr sydd â’r nifer uchaf o achosion yw Llundain, lle mae 47 o achosion wedi’u cadarnhau, a Sir Efrog a Humber, gyda 38.
Mae’r bobl sydd wedi dioddef o wenwyn bwyd yn cynnwys babanod a phobl hyd at 90 oed, yn ôl yr UKHSA.
Ymchwiliad
Dywedodd Hannah Charles, prif epidemiolegydd heintiau gastroberfeddol yr asiantaeth iechyd: "Rydym yn gweithio gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill i ymchwilio i achos o salmonela a allai fod yn gysylltiedig ag wyau a gafodd eu mewnforio o wledydd tu allan i’r DU.
"Mae salmonelosis yn aml yn cael ei achosi drwy fwyta neu drin bwyd sydd wedi’i halogi, a gall gael ei ledaenu’n anaml o berson i berson.
"Mae salmonela fel arfer yn achosi salwch cymedrol, er y gall grwpiau sy’n agored i niwed, gyda systemau imiwnedd gwan, brofi salwch mwy difrifol.
"Dylai unrhyw un sy’n poeni am ei symptomau gysylltu â’i feddyg teulu neu wasanaeth y tu allan i oriau arferol yn y lle cyntaf."
Ychwanegodd bod modd dilyn "camau syml" i atal salmonela rhag lledaenu.
"Golchwch eich dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi a thrin bwyd," meddai.
"Coginiwch fwyd yn drylwyr, ac os oes gennych unrhyw symptomau, osgowch drin bwyd i bobl eraill lle bo modd."