Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddifrod troseddol i adeilad sy'n rhan o gynllun i gartrefu ceiswyr lloches

Sefydliad Gronant

Mae’r heddlu’n ymchwilio i ddifrod troseddol sy’n gysylltiedig â chasineb i adeilad sy’n rhan o gynlluniau i ddarparu llety i geiswyr lloches mewn pentref yn Sir y Fflint.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod sawl neges wrth-Islamaidd a gwrth-fewnfudo wedi ymddangos ar nifer o adeiladau Sefydliad Gronant ym mhentref Gronant.

Daw’r ymchwiliad wrth i gynlluniau gael eu datblygu i ddefnyddio Sefydliad Gronant fel llety i geiswyr lloches. 

Yn wreiddiol, roedd y Swyddfa Gartref wedi bwriadu defnyddio 13 o’r 15 o adeiladau ar y safle.

Ond mae’r cynllun bellach wedi’i addasu, gyda chynlluniau i ddefnyddio uchafswm o dri eiddo ar gyfer hyd at dri theulu.

Mae’r Prif Arolygydd Rachel Hare wedi dweud bod ymchwiliadau’n cael eu cynnal i sefydlu union amgylchiadau’r digwyddiad ac i adnabod y rhai sy’n gyfrifol am y difrod troseddol.

"Rydym yn cymryd pob adroddiad am droseddau sy’n gysylltiedig â chasineb, gan gynnwys y rhai sy’n targedu cymunedau neu hunaniaethau cenedlaethol, o ddifrif. Nid oes lle i ymddygiad o’r fath yn ein cymuned, ac ni fydd yn cael ei oddef dan unrhyw amgylchiadau," meddai.

"Mae ymholiadau ynghylch camerâu teledu cylch cyfyng lleol eisoes ar y gweill, ac mae mwy o batrolau’n cael eu cynnal yn yr ardal er mwyn rhoi sicrwydd i’r gymuned a chynorthwyo gyda’r ymchwiliad."

Tensiynau

Ddydd Llun, dywedodd AS Llafur Dwyrain Clwyd, Becky Gittins, fod y Swyddfa Gartref wedi cytuno i leihau maint ei chynlluniau ar gyfer y safle, yn dilyn ymweliadau â’r pentref.

"Y cynllun gwreiddiol oedd defnyddio 13 o’r 15 eiddo," meddai.

"O’r cychwyn cyntaf, roeddwn yn glir, er y dylai ein hardal chwarae ei rhan wrth ddarparu llety i geiswyr lloches, nad oedd maint y cynllun yn gymesur â phentref maint Gronant, sydd â thrafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig a mynediad cyfyngedig at siopau a gwasanaethau.

"Gofynnais i’r Swyddfa Gartref ailystyried ei dull gweithredu a dadleuais y dylid edrych eto ar y sefyllfa ym mhentref Gronant. 

"Mewn ymateb, gweithredodd swyddogion yn gyflym i ymweld â’r pentref, gweld yr eiddo ac asesu’r sefyllfa drostynt eu hunain. Ar ôl gwneud hynny, maent wedi cytuno i newid eu dull gweithredu’n sylweddol."

Ychwanegodd y byddai'r llety ar gyfer teuluoedd yn unig yn hytrach nag unigolion.

"Nid oes neb yn cael llety ar y safle ar hyn o bryd. Os caiff ei ddefnyddio fel llety i geiswyr lloches yn y dyfodol, bydd uchafswm o dri eiddo’n cael eu defnyddio, gan letya dim mwy na thri theulu," meddai.

"Ni fydd yr adeiladau sy’n weddill yn cael eu defnyddio fel llety i geiswyr lloches.

"Rwyf hefyd am fod yn gwbl glir mai ar gyfer teuluoedd yn unig y mae’r safle wedi’i ddynodi. 

"Ni fydd yn cael ei ddefnyddio i letya dynion sengl nac unrhyw grŵp arall. Mae hyn yn newid sylweddol o’r cynllun gwreiddiol, ac rwy'n credu ei fod yn sefyllfa llawer mwy synhwyrol a phriodol i Gronant.

"Mae’r mwyafrif llethol o drigolion lleol wedi mynegi eu pryderon mewn ffordd resymol ac adeiladol. Yn anffodus, rydym hefyd wedi gweld bygythiadau, brawychu ac ymdrechion i gynyddu tensiynau, gyda llawer o hyn yn ymwneud â phobl nad ydynt o Gronant na’r ardal leol. 

"Nid yw’r ymddygiad hwnnw wedi chwarae unrhyw ran yn arwain at y sefyllfa hon ac nid oes lle iddo yn ein cymuned."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod O135612.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.