Conwy: Beiriniadaeth wedi i rybudd hinsawdd gael ei baentio ar ochr mynydd
Mae trigolion lleol wedi'u cynddeiriogi ar ôl i grŵp ymgyrchu Greenpeace greu gwaith celf ar safle tanau gwyllt yn Sir Conwy, er mwyn "cyfleu neges bwerus i Andy Burnham".
Cafodd ei greu wrth i ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu meysydd olew a nwy newydd ym Môr y Gogledd ddod i ben ddydd Mawrth.
Fe wnaeth Greenpeace osod y gwaith celf ar dir ym Mwlch Sychnant o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, lle cafodd rhannau helaeth o’r dirwedd eu dinistrio gan danau gwyllt yn ddiweddar.
Mae hynny wedi cynddeiriogi rhai yn lleol, sy'n dweud iddyn nhw lanhau'r safle yn ddiweddarach, gan ddadlau bod y "graffiti yn dangos diffyg parch tuag at yr amgylchedd a'r gymuned."
Wrth ymateb i hynny, dywedodd llefarydd ar ran Greenpeace wrth Newyddion S4C eu bod yn deall pam bod teimladau cryfion yn lleol dros warchod y tirlun a phwysigrwydd dangos "parch tuag at bobl sydd wedi dioddef yn sgil y tanau gwyllt yng Nhonwy."
"Nid y bwriad, drwy'r weithred hon oedd dangos diffyg parch, ond yn hytrach i dynnu sylw at yr argyfwng newid hinsawdd sy'n rhoi'r lleoliadau prydferth hyn mewn perygl.
"Bûm yn ofalus wrth sicrhau'r effaith leiaf bosibl ar y tir," meddai'r llefarydd.
Roedd y gwaith celf yn cynnwys y geiriau "Mae ein tŷ ar dân, Andy", ynghyd â darlun o Mr Burnham yn paratoi i dywallt olew a nwy ar y fflamau.
Yn dilyn her gyfreithiol gan y grwpiau amgylcheddol Greenpeace ac Uplift, dyfarnodd y llysoedd fod y gymeradwyaeth wreiddiol ar gyfer meysydd Rosebank a Jackdaw yn anghyfreithlon.
Mae'r diwydiant olew a nwy wedi annog Prif Weinidog y DU i gymeradwyo'r ddau ddatblygiad dadleuol, wrth i'r ymgynghoriad ar faes olew mwyaf y DU ddod i ben.
Roedd yn rhaid cyflwyno’r ddau brosiect i’r rheoleiddwyr unwaith eto, gan ystyried nid yn unig yr allyriadau carbon sy’n deillio o adeiladu’r prosiectau, ond hefyd yr allyriadau o’r tanwyddau ffosil sy'n cael eu hechdynnu.
Dywedodd Greenpeace: "Mae mwy o ddrilio yn golygu mwy o donnau gwres, mwy o sychder, mwy o danau gwyllt, a mwy o ddioddefaint i’r cymunedau y mae Burnham yn eu cynrychioli.
"Mae’r argyfwng hinsawdd eisoes yn taro pobl sy’n gweithio galetaf - diffoddwyr tân ar y rheng flaen, gyrwyr bysiau sy’n agored i amodau annynol, nyrsys yn cwympo yn y gwaith."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig na fydd yn cefnu ar y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael cais am ymateb.
