Rwsia yn rhybuddio'r DU dros gyflenwi dronau i Wcráin
Mae Rwsia wedi cyhuddo'r DU o "ddewis yn fwriadol i waethygu argyfwng Wcráin" yn dilyn cadarnhad bod dronau a wnaed ym Mhrydain wedi cael eu defnyddio mewn ymosodiadau ar dargedau yn Rwsia.
"Wrth wneud hynny, mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu fel cyd-droseddwr ac yn rhan o'r troseddau gwaedlyd a'r ymosodiadau terfysgol," meddai Llysgenhadaeth Rwsia yn y DU mewn datganiad.
"Bydd gweithredoedd Llundain yn anochel yn arwain at ganlyniadau y bydd yn rhaid iddi ateb amdanynt po fwyaf dwfn yw ei hymwneud â'r gwrthdaro.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn wrth y BBC fod Prydain yn sefyll "ysgwydd wrth ysgwydd" ag Wcráin.
"Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth gan Rwsia ynghylch penderfyniad y Llywodraeth hon i wrthsefyll ymddygiad ymosodol Rwsia, yn Wcráin ac yn erbyn y DU a'n cynghreiriaid," meddai'r llefarydd mewn datganiad.
Ychwanegodd fod y DU "wedi ymrwymo i ddarparu'r offer sydd eu hangen ar Wcráin i amddiffyn ei hun yn erbyn goresgyniad anghyfreithlon [Arlywydd Rwsia Vladimir] Putin".
Mae’r dronau dan sylw wedi cael eu gwneud gan ddau gwmni Prydeinig.
Maen nhw wedi cael eu defnyddio i ymosod ar dargedau milwrol a diwydiannol yn Rwsia, gan gynnwys purfeydd olew a warysau’r manwerthwr ar-lein Wildberries, sef fersiwn Rwsia o’r cwmni Amazon.
Llun: Reuters
