Gêm gyfartal rhwng Caerdydd a Wrecsam yn y Bencampwriaeth

18/08/2026
Caerdydd v Wrecsam

Cafodd Caerdydd a Wrecsam gêm gyfartal yn y brifddinas nos Lun yn eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Fe sgoriodd Wrecsam yn gyntaf gyda gôl gynnar gan yr ymosodwr Kieffer Moore.

Fe sgoriodd Rubin Colwill gôl o gic rydd gyda chic olaf y gêm i unioni’r sgôr, er mawr ryddhad i gefnogwyr y tîm cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau glwb gyfarfod yn y gynghrair ers gêm yn y drydedd haen yn 2002.

Fe ddaeth Colwill ar y cae fel eilydd yn yr ail hanner.

Dywedodd rheolwr Caerdydd Brian Barry-Murphy: "Cafodd effaith fawr ar gêm fawr."

Dywedodd rheolwr Wrecsam Phil Parkinson: "Gallwch gael eich cosbi am ildio ciciau rhydd hawdd ar y lefel hon, a dyna a gostiodd i ni heno."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.