Ble mae tai yn cael eu gwerthu gyflymaf yng Nghymru?
Mae gwefan eiddo wedi cyhoeddi ffigyrau newydd sy'n amlinellu lle mae'r llefydd cyflymaf i werthu tŷ yng Nghymru a'r DU.
Mae gwefan Zoopla yn datgan fod yr amser cyfartalog i werthu tŷ bron i saith gwaith yn gyflymach mewn rhai mannau o'r DU nag eraill, gyda thua hanner o ardaloedd awdurdodau lleol yn cofnodi amseroedd hirach i werthu o'i gymharu â llynedd.
Yn ôl Zoopla, Sir Benfro sydd â'r nifer uchaf o ddyddiau i werthu tŷ yng Nghymru, gyda chyfartaledd o 50 diwrnod.
Roedd hyn yn gynnydd o ddau ddiwrnod o'i gymharu â nifer y dyddiau yn y sir y llynedd (48).
Castell-nedd Port Talbot yw'r sir â'r gyfradd gyflymaf i werthu tŷ yng Nghymru ar gyfartaledd, sef 29 diwrnod.
Roedd hyn yn ostyngiad o bum niwrnod o'i gymharu â nifer y dyddiau yn y sir y llynedd (34).
Dywedodd Richard Donnell, cyfarwyddwr gweithredol Zoopla: “Er bod yr amser cenedlaethol i werthu prin wedi symud, mae’r sefydlogrwydd hwnnw’n cuddio rhaniad go iawn sy’n agor rhwng marchnadoedd lleol.
"Os ydych chi'n gwerthu mewn marchnad arafach, peidiwch â mabwysiadu agwedd 'aros a gweld' - siaradwch ag asiant lleol sy'n gwybod am yr hyn sy'n digwydd o stryd i stryd, a gwnewch yn siŵr fod eich tŷ wedi ei brisio'n iawn o'r diwrnod cyntaf."
Fe wnaeth ymchwil Zoopla ddilyn y cyfnod o'r cartrefi yn cael eu rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf i asiant tai yn adrodd bod gwerthiannau wedi’u cytuno.
Dyma'r rhestr yng Nghymru:
- Castell-nedd Port Talbot - 29 diwrnod
- Rhondda Cynon Taf - 31 diwrnod
- Caerdydd - 32 diwrnod
- Pen-y-bont ar Ogwr - 33 diwrnod
- Sir y Fflint - 33 diwrnod
- Casnewydd - 38 diwrnod
- Torfaen - 38 diwrnod
- Abertawe - 40 diwrnod
- Blaenau Gwent - 40 diwrnod
- Wrecsam - 40 diwrnod
- Conwy - 41 diwrnod
- Ynys Môn - 41 diwrnod
- Ceredigion - 42 diwrnod
- Gwynedd - 43 diwrnod
- Caerffili - 43 diwrnod
- Bro Morgannwg - 44 diwrnod
- Sir Gâr - 44 diwrnod
- Sir Fynwy - 45 diwrnod
- Sir Ddinbych - 47 diwrnod
- Powys - 47 diwrnod
- Merthyr Tudful - 49 diwrnod
- Sir Benfro - 50 diwrnod
