Chwilio am yrrwr ar ôl i ddynes mewn cadair olwyn gael ei hanafu yn Wrecsam
Llun: Google
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ar ôl i ddynes mewn cadair olwyn gael anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam fore Sadwrn.
Yn ôl y llu, cafodd y ddynes ei tharo gan fan wen tua 11:30 ar ffordd Meadow Lea yn y ddinas.
Fe yrrodd gyrrwr y fan o safle'r gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn dal i geisio dod o hyd iddo.
Dywedodd y Rhingyll Katie Davies o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol: '"Da ni’n parhau i wneud ymdrechion er mwyn adnabod gyrrwr y cerbyd yn y gwrthdrawiad.
"'Da ni’n gofyn i unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal a welodd y cerbyd, neu sydd efo fideo camera cerbyd, i gysylltu efo ni.
"Dwi’n diolch i aelodau’r cyhoedd sydd wedi helpu’n hymchwiliadau ni’n barod."
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â nhw drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 26000667358.