Arestio tri bachgen wedi i dân gynnau ger gorsaf reilffordd

gorsaf treherbert
Mae dau lanc 15 oed a bachgen 13 oed wedi eu harestio wrth i'r heddlu ymchwilio i honiadau i dân gael ei gynnau'n fwriadol yng nghefn gorsaf reilffordd Treherbert yng Nghwm Rhondda ddydd Sul.
 
Yn ôl Heddlu De Cymru, mae'r bechgyn wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad. 
 
Dywedodd y llu bod digwyddiadau o'r fath yn rhoi cymunedau mewn perygl, yn medru effeithio ar iechyd bobl, bygwth bywyd gwyllt a thynnu adnoddau'r gwasanaethau brys oddi ar bobl sydd wir eu hangen.        
 
"Mae cynnal tân yn fwriadol yn drosedd," meddai'r llu. 
 
"Os ydych yn gweld unrhyw beth amheus, neu â gwybodaeth am achosion o gynnau tân yn fwriadol, cysylltwch â'r heddlu drwy ffonio 101."
 

Daw'r rhybudd wedi penwythnos heriol i’r gwasanaethau brys sy’n ceisio diffodd tanau gwyllt mewn sawl lleoliad yng Nghymru. 

Mae'r fyddin wedi cadarnhau eu bod nhw'n bwriadu aros yn ne Cymru i gynorthwyo gyda'r gwaith o reoli'r tanau tan ddydd Iau. 

Mae disgwyl i'r tywydd fod yn fwy ffafriol erbyn hynny, gyda glaw yn y rhagolygon.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.