Milwyr a chriwiau tân 'o bob cwr o Brydain' yn cynorthwyo yn ne Cymru

16/08/2026

Milwyr a chriwiau tân 'o bob cwr o Brydain' yn cynorthwyo yn ne Cymru

Mae milwyr a chriwiau tân "o bob cwr o Brydain" yn cynorthwyo yn ne Cymru gyda'r ymdrechion i reoli nifer o danau gwyllt sydd wedi bod yn llosgi yn y rhanbarth dros y dyddiau diwethaf.

Mae criwau mor bell i ffwrdd a Llundain a Cumbria wedi ymuno i roi cymorth.

Mewn diweddariad dydd Sul, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y statws 'digwyddiad mawr' ('major incident') yn parhau mewn grym.

Roedd swyddogion y gwasanaeth wedi ymateb i 14 o danau gwyllt ddydd Sul, "gyda diffoddwyr tân yn gweithio gyda phroffesiynoldeb a dewrder eithriadol i ddiogelu cymunedau, cartrefi, busnesau, bywyd gwyllt a'r amgylchedd".

Image
MOD3

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw’n canolbwyntio eu hymdrechion ar chwe ardal yn benodol sef:

  • Blaenafon
  • Dowlais
  • Glynrhedynog
  • Glyn Ebwy
  • Treherbert
  • Wattsville

Ychwanegodd datganiad y gwasanaeth tân fod dros 110 aelod o'r lluoedd arfog yn helpu gyda'r gwaith o reoli'r fflamau, a chriwiau tân o bob cwr o Brydain yn helpu hefyd.

"Mae ein hymateb parhaus yn parhau i gael ei gefnogi gan gymorth gan wasanaethau tân ac achub cyfagos ledled y DU.

"Yn dilyn ein cais am Gymorth Milwrol, mae gennym bellach dros 110 o filwyr ar y ddaear yn cynorthwyo i greu bylchau tân drwy gloddio ffosydd a chlirio llystyfiant. 

"Maent hefyd yn cynorthwyo gyda logisteg, gan gynnwys cludo llawer o ddŵr diffodd tân i safle'r digwyddiad."

Image
MOD2

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Tân Adam Openshaw o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Hoffwn ddiolch i griwiau tân o bob rhan o'r DU sydd wedi dod i'n cynorthwyo, ochr yn ochr â'n partneriaid asiantaethol, gwirfoddolwyr a'r lluoedd arfog. 

"Mae ymdrechion cyfunol pawb sy'n rhan o'r digwyddiad mawr hwn yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gadw pobl yn ddiogel yn ystod yr amgylchiadau eithriadol hyn.

"Rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod heriol a phryderus i lawer o bobl. 

"Hoffwn ddiolch i'n cymunedau am eu cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod hwn. 

"Gallwch fod yn sicr ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu ein cymunedau a chadw pobl De Cymru yn ddiogel."

Dywedodd y gwasanaeth tân hefyd fod yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi sefydlu Ardal Gyfyngedig Dros Dro ar gyfer awyrennau di-griw neu dronau.

"Mae hyn er mwyn cefnogi gweithrediadau diffodd tân parhaus a sicrhau diogelwch hofrenyddion a staff ymateb brys,” medden nhw.

“Peidiwch â hedfan dronau personol o fewn yr ardal gyfyngedig sy'n ymwneud â GTADC. Dylai pob peilot drôn proffesiynol wirio hysbysiadau swyddogol gan ddefnyddio ffynhonnell ddata gymeradwy."

Lluniau: Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.