Rhybudd brys cenedlaethol yn cael ei anfon oherwydd perygl tanau gwyllt

rhybudd

Mae rhybudd brys cenedlaethol wedi cael ei anfon i ffonau symudol ledled Cymru a Lloegr wrth i bryderon gynyddu am y perygl o danau gwyllt.

Dechreuodd y Llywodraeth anfon y rhybudd am 19:00 nos Wener, yn sgil cyfnod hir o dywydd poeth a sych sydd wedi gadael rhannau helaeth o’r wlad mewn perygl o dân.

Mae’r neges yn rhybuddio pobl i beidio â chynnau unrhyw beth allai achosi tân, gan gynnwys barbeciws, tanau gwersyll a thân gwyllt.

Mae hefyd yn annog pobl i roi gwybod am unrhyw dân ar unwaith drwy ffonio 999.

Daw’r cam wrth i wasanaethau tân wynebu pwysau sylweddol. 

Mae nifer y tanau gwyllt yng Nghymru a Lloegr eleni eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, gyda mwy na 1,000 o achosion wedi’u cofnodi.

Mae tanau mawr yn parhau mewn sawl rhan o Gymru, gyda’r gwasanaethau brys yn ymdrin ag achosion sylweddol yn y de, y canolbarth a’r gorllewin.

Gall rhybudd brys achosi i ffôn wneud sŵn uchel tebyg i seiren a dirgrynu am tua 10 eiliad, hyd yn oed os yw’r ddyfais wedi’i gosod ar y modd tawel. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.