Abertawe: Menyw oedrannus wedi marw mewn gwrthdrawiad
Mae menyw 84 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad mewn pentref ger Abertawe.
Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i Ffordd Bishopston yn Llandeilo Ferwallt am tua 16.20 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad un cerbyd.
Bu farw menyw 84 oed o Landeilo Ferwallt, a oedd yn teithio yn y cerbyd, o ganlyniad i'w hanafiadau.
Fe wnaeth y gyrrwr, dyn 87 oed o Landeilo Ferwallt, ddioddef mân anafiadau.
Mae ymchwiliad i'r ddamwain yn parhau.
Cafodd y ffordd ei chau yn dilyn y digwyddiad, ond mae bellach wedi'i hail-agor.