Mwg o danau gwyllt yn ne Cymru yn cyrraedd rhannau o'r gogledd
Mae mwg o danau gwyllt de Cymru wedi cyrraedd rhannau o ogledd Cymru fore Mercher, yn ôl gwasanaeth tân y gogledd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn “nifer o alwadau ynghylch hogle mwg bore ‘ma”, gyda rhai yn codi pryderon am danau’n lleol.
“Gallwn gadarnhau fod y mwg hwn yn teithio o'r tanau gwyllt sy'n llosgi yn Ne Cymru.”
Mae'n bosib arogli'r mwg yng Ngwynedd, Môn a Sir Conwy fore Mercher.
Dywedodd y gwasanaeth nos Fawrth eu bod wedi ymateb i dân yng Nghoedwig Abergwynant ger Llynpenmaen yn ardal Dolgellau.
“Hoffwn dawelu pryderon y cyhoedd- mae ein diffoddwyr tân yn bresennol ac yn delio â’r sefyllfa,” meddai’r llefarydd.
Daw wedi i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddatgan digwyddiad mawr wrth i wasanaethau brys ymateb i nifer o danau gwyllt sylweddol ar draws de Cymru.
Dywedodd y gwasanaeth fod y tanau gwyllt yn rhoi pwysau sylweddol ar ei adnoddau ac mae’n gofyn am gymorth y cyhoedd.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2087257630385242281?s=20
Mae'r tân sylweddol ger Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy bellach o dan reolaeth yn dilyn cynnydd sylweddol yn yr ymdrechion gan ddiffoddwyr tân dros y dyddiau diwethaf.
O ganlyniad, penderfynwyd newid statws y digwyddiad hwnnw fel un nad oedd bellach yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad mawr.
Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau ar y safle, gyda chymorth adnoddau arbenigol, wrth i'r gwaith barhau i ddiffodd mannau poeth sy'n weddill, atal y tân rhag ail-gynnau a sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.
Nos Lun, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod criwiau yn ceisio diffodd tanau gwyllt newydd yng nghoedwig Cwmafon yn Nhorfaen, yn Wattsville ger Casnewydd ac yn Abernant, ger Aberdâr.
Roedd criwiau eisoes yn ymateb i'r tân sylweddol yn Llangynidr, ger Glyn Ebwy, a thân ar Fynydd Llanwynno, ger Glynrhedynog yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ôl y gwasanaeth, cafodd y tân ar Fynydd Llanwynno ei ailgynnau’n fwriadol.
