'Digwyddiad go ddramatig’: Sir Benfro y lle gorau yng Nghymru i weld yr eclips
Sir Benfro fydd y lle gorau yng Nghymru i weld yr eclips rhannol nos Fercher, gyda disgwyl i tua 94% o’r haul gael ei guddio gan y lleuad.
Y gorllewin a’r de-orllewin o’r sir fydd â’r olygfa orau, ond bydd angen safle agored gyda golygfa glir tua’r gorllewin gan y bydd yr haul yn isel yn yr awyr.
Yn Nhyddewi, bydd yr eclips yn dechrau tua 18.15, yn cyrraedd ei uchafbwynt am 19.13 ac yn dod i ben tua 20.07.
Bydd yr amseroedd yn amrywio ychydig ar draws Cymru. Yng Nghaerdydd, bydd yn dechrau tua 18.17, yn cyrraedd ei uchafbwynt am 19.12 ac yn dod i ben am 20.06.
Dyma fydd y tro cyntaf ers 1999 i gymaint o’r haul gael ei guddio o’r DU ac Iwerddon.
Dywedodd yr Athro Huw Morgan, o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth ac arweinydd grŵp ffiseg y gofod, y bydd yn “ddigwyddiad go ddramatig”.
“Mae hwn yn eclips llwyr o’r haul, ond yn anffodus yng Nghymru dydyn ni ddim cweit ar y llwybr iawn lle fydd y lleuad yn gorchuddio’r haul yn llwyr,” meddai.
“Ond er hynny, mi fydd y lleuad yn gorchuddio rhyw 94% o’r haul.
“Mae gweld eclips rhannol yng Nghymru, yn enwedig un sy’n cyrraedd rhyw 94%, yn eitha anghyffredin, falle bob cwpwl o ddegawdau.
“Felly mae’n werth mynd allan i weld hyn.”
Beth fydd pobl yn sylwi arno?
Bydd yr awyr yn tywyllu’n amlwg, er na fydd hi’n troi’n gwbl dywyll fel y byddai yn ystod eclips llwyr.
Fe allai’r tymheredd hefyd ostwng yn gyflymach na’r disgwyl wrth i’r lleuad symud o flaen yr haul.
“Un peth eitha syfrdanol, dwi’n meddwl, yw’r cysgodion,” meddai’r Athro Morgan.
“Bydd cysgodion yn edrych yn llawer mwy siarp nag y maen nhw fel arfer oherwydd bod golau’r haul yn dod o ryw stribyn bach tenau, yn hytrach na’r cylch mawr rydyn ni wedi arfer ag ef.”
Bydd eclips llwyr i’w weld dros rannau o’r Ynys Las, Gwlad yr Iâ, gogledd Rwsia, Sbaen a chornel fach o Bortiwgal.
Mae’r Athro Morgan yn rhan o dîm rhyngwladol fydd yn gwneud mesuriadau gwyddonol o’r eclips yn Sbaen.
Rhybudd diogelwch
Mae arbenigwyr yn rhybuddio pobl i beidio ag edrych yn uniongyrchol ar yr haul, hyd yn oed pan fydd y rhan fwyaf ohono wedi’i guddio neu pan fydd cymylau yn yr awyr.
“Peidiwch â syllu ar yr haul â’ch llygaid noeth, a pheidiwch byth ag edrych ar yr haul drwy finocwlars neu delesgop,” meddai’r Athro Morgan.
“Gall hynny achosi niwed mawr parhaol i’r llygaid.”
Dylai pobl ddefnyddio sbectol eclips sy’n cyrraedd safon ddiogelwch ISO 12312-2. Nid yw sbectol haul arferol yn cynnig digon o amddiffyniad.
Mae hefyd yn bosib gwylio’r eclips yn anuniongyrchol drwy ddefnyddio taflunydd twll pin i daflunio delwedd o’r haul ar arwyneb.
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad am ddim ger y bandstand ar bromenâd y dref.
Bydd gweithdy i greu taflunydd twll pin yn dechrau am 17.30, gyda sbectol eclips am ddim ar gael tra bydd stoc ar gael.
Bydd telesgopau pwrpasol a darllediadau byw o’r eclips hefyd i'w gael yno.
