Cyhoeddi £1 miliwn o gymorth i geisio adfywio canol Bangor a Phen-y-bont
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1m o gymorth ar gyfer cynlluniau i geisio adfywio canol dinas Bangor a thref Phen-y-bont ar Ogwr.
Bydd £654,000 yn cael ei wario ar wella mannau cyhoeddus yng nghanol Bangor.
Mae £350,000 arall wedi’i gadarnhau i gefnogi gwaith i adfywio Canolfan Siopa’r Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd y cyllid ei gyhoeddi yn ystod ymweliad â phrosiectau yng nghanol Bangor sydd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: “Mae canol trefi yn parhau i fod yn galon ein cymunedau.”
Dywedodd eu bod yn parhau i wynebu heriau sylweddol oherwydd newidiadau mewn ymddygiad defnyddwyr, pwysau economaidd a’r newid yn eu rôl ym mywydau pobl.
“Mae ‘na heriau mawr yn wynebu canol ein dinasoedd ni - da ni gyd yn gweld hynny.
“Mae’r ffocws angen bod yn glir ar ffeindio datrysiadau i’r sefyllfaoedd yna a dyna fydd gwaith y tasglu sy’n cael ei gyhoeddi heddiw”.
Tasglu newydd
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi mai Tamsin Ramasut a’r Athro Simon Gibson CBE fydd cyd-gadeiryddion Tasglu Canol Trefi newydd.
Roedd sefydlu’r tasglu o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth yn un o’i hymrwymiadau pan ddaeth i rym ym mis Mai eleni wedi etholiad y Senedd.
Bydd cynrychiolwyr o fyd busnes, llywodraeth leol, meysydd adfywio a chynllunio, y byd academaidd a chymunedau yn rhan o’r tasglu.
Bydd yn cyflwyno argymhellion i weinidogion ar sut i gefnogi dyfodol canol trefi Cymru meddai datganiad y Llywodraeth.
Mae disgwyl i’r tasglu gyflwyno ei argymhellion erbyn dechrau 2027.
“Mae eisiau gweithredu i ddod ohono fo ac mae’r tasglu efo ychydig o fisoedd i edrych yn fforensig ar yr heriau - o gynllunio i drethi busnesau a sut i feddwl yn ddychmygus i adfer canol ein trefi”.
Ychwanegodd Siân Gwenllian y bydd y tasglu’n ceisio dod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â dirywiad, cynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi busnesau Cymreig, denu buddsoddiad a chryfhau canol trefi a dinasoedd yn y tymor hir.
Mae Tamsin Ramasut wedi gweithio ym maes adfywio, creu lleoedd ac ymgysylltu â chymunedau, gan gynnwys drwy ei gwaith gyda Pont Collective.
Mae’r Athro Simon Gibson yn sylfaenydd Alacrity ac mae wedi dal swyddi arwain gyda Wesley Clover, Ubiquity Software ac Awdurdod Datblygu Cymru.
‘Siop siarad’
Ond dywedodd yr economegydd Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor fod y problemau sy’n wynebu canol trefi eisoes yn hysbys a bod angen i’r tasglu arwain at weithredu.
“Mae [sefydlu’r tasglu] yn edrych braidd yn rhyfedd oherwydd da ni’n gwybod y problemau... beth da ni angen ydy penderfyniadau gan y llywodraeth i gael effaith bositif ar y stryd fawr.
“Dwi’n gobeithio fydd o ddim yn ‘siop siarad’ a bydd o’n arwain at rhywbeth cadarn a phenodol – mae na risg mai ‘siop siarad’ ydy o ac mi fyddai hynny yn siomedig iawn”.
Dywedodd yr economegydd mai cyfuniad o ffactorau gan gynnwys newid i arferion siopa, siopa ar-lein a threthi busnes uchel sydd wedi achosi nifer o anawsterau.
Dywedodd fod hi’n deg dweud fod llywodraethau, cynghorau a’r sector breifat wedi bod yn “rhy araf” i addasu dros y blynyddoedd.
‘Wedi dirywio gymaint’
Stryd Fawr Bangor yw’r stryd fawr hiraf yng Nghymru ac mae’r heriau o ran siopau’n cau a busnesau’n gadael y ddinas wedi’u cofnodi’n helaeth.
Yn ôl Nesta Pritchard, sy’n gweithio mewn siop ddillad ar y stryd fawr, mae’r heriau’n enfawr ac mae’r stryd wedi “dirywio gymaint”.
“Mae hon yn siop lle mae pobl yn dod ac angen rhywbeth arbennig ond mae’r stryd fawr yn colli hyna, lot o siopau wedi cau lawr.
“Mae’n edrych yn drist a dweud y gwir mi gafo ni ddau gwsmer mewn heddiw 'ma o Loegr yn dweud pa mor ddigalon ydi’r stryd fawr yn edrych”.
Cytuno gyda hyn mae Medi Parry Williams, sy’n cynghori busnesau a phartneriaid lleol i wella ac adfywio Bangor.
“Da ni angen buddsoddiad, da ni angen edrych ar cynllunio i neud pethau’n haws i fusnesau symud ar y stryd fawr – mae nhw angen support cyn iddyn nhw ddod yma, support tra nhw yma a da ni angen sbio ar y business rates felly mae digon o bethau yna sa’n gallu cael ei wneud yn weddol sydyn”.
Ychwanegodd ei bod yn croesawu ymrwymiad newydd y llywodraeth i ddinas Bangor.