Tanau Gwyllt: Cyhoeddi digwyddiad mawr ar draws de Cymru

Tan Llangynidr

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi datgan digwyddiad mawr wrth i wasanaethau brys ymateb i nifer o danau gwyllt sylweddol ar draws de Cymru.

Dywedodd llefarydd fod y tanau yn effeithio ar nifer o gymunedau mewn gwahanol ardaloedd, gyda mwg i’w weld am filltiroedd.

Mae cymorth gan wasanaethau tân cyfagos wedi’i alw er mwyn helpu i gadw cymunedau’n ddiogel.

Drwy gydol y dydd, mae peiriannau tân a chriwiau wedi cael eu hanfon i’r digwyddiadau, ynghyd ag adnoddau arbenigol, gan gynnwys hofrennydd a chynghorwyr tactegol arbenigol.

Dywedodd y gwasanaeth fod y tanau gwyllt yn rhoi pwysau sylweddol ar ei adnoddau ac mae’n gofyn am gymorth y cyhoedd.

Mae'r tân sylweddol ger Cronfa Ddŵr Llangynidr ger Glyn Ebwy bellach o dan reolaeth yn dilyn cynnydd sylweddol yn yr ymdrechion gan ddiffoddwyr tân dros y dyddiau diwethaf.

O ganlyniad, penderfynwyd newid statws y digwyddiad hwnnw fel nad oedd bellach yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad mawr.

Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau ar y safle, gyda chymorth adnoddau arbenigol, wrth i'r gwaith barhau i ddiffodd mannau poeth sy'n weddill, atal y tân rhag ail-gynnau a sicrhau bod yr ardal yn ddiogel.

Nos Lun, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod criwiau yn ceisio diffodd tanau gwyllt newydd yng nghoedwig Cwmafon yn Nhorfaen, yn Wattsville ger Casnewydd ac yn Abernant, ger Aberdâr.

Roedd criwiau eisoes yn ymateb i'r tân sylweddol yn Llangynidr, ger Glyn Ebwy, a thân ar Fynydd Llanwynno, ger Glynrhedynog yn Rhondda Cynon Taf. 

Yn ôl y gwasanaeth, cafodd y tân ar Fynydd Llanwynno ei ailgynnau’n fwriadol.

Cyngor

Mae’r gwasanaeth yn gofyn i bobl adrodd unrhyw ymddygiad amheus neu achosion o gynnau tanau’n fwriadol i’r heddlu drwy ffonio 101, ac i ffonio 999 dim ond os oes argyfwng newydd i’w adrodd i’r gwasanaeth tân.

Mae hefyd yn gofyn i’r cyhoedd gadw draw o’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio a pheidio â chynnau tanau yng nghefn gwlad nac yn eu gerddi. Mae pobl yn cael eu hannog i beidio â defnyddio barbeciws ar y ddaear na phyllau tân yn ystod y cyfnod hir o dywydd sych, ac i gael gwared ar ddeunyddiau ysmygu’n ddiogel.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn rhybuddio pobl rhag hedfan dronau yn yr ardaloedd gan y gallent amharu ar waith y gwasanaethau brys, ac yn gofyn iddynt ddilyn unrhyw gyfyngiadau lleol neu gyngor diogelwch.

Mae mwg o’r tanau wedi effeithio ar ardal sylweddol o dde-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynghori pobl sydd wedi’u heffeithio gan y mwg i gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau lle bo modd ac i ddilyn cyngor iechyd y cyhoedd.

Dylai pobl sydd â chyflyrau anadlol gymryd gofal ychwanegol a cheisio cymorth meddygol os oes angen.

Bydd y gwasanaethau brys a sefydliadau partner yn parhau i fonitro’r sefyllfa, cefnogi’r cymunedau sydd wedi’u heffeithio a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd.

Llun: Tanau gwyllt yng Nglynrhedynog (Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.