Ymestyn prosiectau i fynd i'r afael â TB yn y gogledd a Sir Benfro

Gwartheg

Bydd prosiectau sy’n ceisio mynd i’r afael â TB buchol yng Nghymru yn cael eu hymestyn yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod 28 o ffermydd a 12 o filfeddygfeydd yn rhan o’r prosiectau, gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth.

Fel rhan o’r gwaith, maen nhw’n treialu offer a dulliau sy’n galluogi ffermwyr a milfeddygon i gydweithio’n agos i nodi a rheoli’r risg o TB, gwella bioddiogelwch a diogelu buchesi a busnesau rhag y clefyd.

Ar ffermydd yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro, mae newidiadau eisoes wedi’u gwneud i arferion gofalu a rheoli buchesi, dulliau o brynu gwartheg a mesurau bioddiogelwch er mwyn ceisio cadw clefydau allan.

Mae ffermwyr a milfeddygon yn rhannu profiadau ac yn defnyddio data i weithredu, gan gynnwys symud anifeiliaid risg uchel oddi ar ffermydd yn wirfoddol.

Cyhoeddodd Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, y newyddion ar faes Sioe Môn ddydd Mawrth.

"Mae TB yn gysgod tywyll dros ffermydd teuluol," meddai.

"Nid yn unig yr agweddau ariannol, er bod hynny’n bwysig wrth gwrs, ond y straen a’r pryder y mae’r clefyd yn eu hachosi.

"Mae’r prosiectau hyn yn dangos grym ffermwyr, milfeddygon, ymchwilwyr, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd. Gyda’n gilydd, gallwn dorri’r cylch dieflig hwn."

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

"Mae llwyddiant y prosiectau yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro yn dangos i ni fod cydweithio yn allweddol, ac rwy’n canmol pawb sy’n cymryd rhan am eu gwaith hyd yma," meddai.

"Mae’r ddau brosiect yn dangos yn glir ffermwyr a milfeddygon yn datblygu camau gweithredu yn erbyn TB ar lefel buches ac yn lleol gyda’i gilydd – i leihau risgiau TB mewn buchesi yr effeithir arnynt, ac i gadw’r clefyd allan."

Ychwanegodd y bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i helpu i lywio’r gwaith o adnewyddu rhaglen Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.