Gwasanaeth tân yn ymateb i danau gwyllt mewn pum lleoliad yn ne Cymru

Glynrhedynog

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dweud eu bod bellach yn ymateb i danau gwyllt mewn pum lleoliad yn yr ardal.

Nos Lun, dywedodd y gwasanaeth tân fod criwiau yn ceisio diffodd tanau gwyllt newydd yng nghoedwig Cwmafon yn Nhorfaen, yn Wattsville ger Casnewydd ac yn Abernant, ger Aberdâr.

Mae criwiau eisoes yn ymateb i dân gwyllt sylweddol yn Llangynidr, ger Glyn Ebwy, a thân ar Fynydd Llanwynno, ger Glynrhedynog yn Rhondda Cynon Taf. Yn ôl y gwasanaeth, cafodd y tân ar Fynydd Llanwynno ei ailgynnau’n fwriadol.

Mae mwg o’r tanau yn effeithio ar ardal sylweddol o dde-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhybuddio trigolion yn ardaloedd Casnewydd, Pont-y-pŵl, Blaenafon, Brynmawr a Chwmbrân i gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau oherwydd y mwg.

Daw hynny wedi i Wasanaeth Tân ac Achub Avon yn Lloegr roi rhybudd tebyg i bobl yn yr ardal honno ddydd Llun.

Cafodd hofrennydd arbenigol ei ddefnyddio ddydd Llun fel rhan o’r ymateb i’r tân yn Llangynidr.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn galw ar drigolion yn ardal Glynrhedynog, ger Mynydd Llanwynno, i adrodd unrhyw ymddygiad amheus yn ymwneud â chynnau tanau i Heddlu De Cymru.

Llun: Tanau gwyllt yng Nglynrhedynog (Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.