AS Llafur yn rhyddhau ffilm ddogfen am fyw gyda chanser 'er mwyn annog eraill i wirio symptomau'
Mae AS Llafur dros Fangor ac Aberconwy, Claire Hughes wedi rhyddhau ffilm ddogfen yn cofnodi ei thaith canser y fron, yn y gobaith o "annog eraill i wirio eu symptomau."
Ym mis Hydref 2025 roedd Ms Hughes, sydd yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru wedi datgelu ei bod wedi derbyn triniaeth, ar ôl cael diagnosis o ganser y fron driphlyg negyddol.
Tua 10-20% o bob diagnosis canser y fron yw'r math yma, ac mae'n anoddach i'w drin.
Yn y ddogfen wyth munud o hyd mae hi'n edrych yn ôl dros y saith mis diwethaf, o ddarganfod lwmp, derbyn llawdriniaeth a thriniaeth chemotherapi a radiotherapi.
Hefyd mae'r AS yn trafod menopos sy'n cael ei achosi gan driniaeth, rhywbeth y mae hi'n dweud nad oedd hi'n gwybod llawer amdano cyn cael diagnosis.
'Annog'
Dywedodd ei bod yn gobeithio gallu annog pobl eraill i wirio symptomau trwy ryddhau'n ffilm ddogfen.
"Os ydi rhannu fy stori yn annog un person yn unig i wirio ei symptomau neu i fynd i'r doctor yn gynt, yna bydd hwn wedi bod gwerth chweil," meddai.
"Jyst oherwydd eich bod chi'n ifanc, peidiwch â meddwl nad oes angen i chi wirio eich hun. Y mwyaf dwi wedi dysgu am ganser, y mwyaf dwi'n gweld sut mae'r fath yma o ganser yn effeithio menywod iau.
"Mae llawer o adnoddau ar-lein o Breast Canser Now, CoppaFeel a Cancer Research UK ar gael i helpu."
Ychwanegodd fod y gofal y mae hi wedi derbyn gan staff y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn "hollol wych".
“Mae’r nyrsys gofal y fron, y llawfeddyg, pawb mor garedig. Does neb yn eich rhuthro, mae pawb yn cymryd eu hamser i ateb eich cwestiynau a sicrhau eich bod wedi deall popeth.
"Rydyn ni mor ffodus i gael ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chael pobl mor wych sy’n gweithio ynddo.
"Mar bywyd yn fyr. Pa fraint fwy sydd na chynrychioli'r lle y cawsoch eich magu a'r lle rydych chi'n ei alw'n gartref?
"Mae byw gyda chanser yn eich atgoffa am yr hyn sydd wir y bwysig. Mae wedi cryfhau fy ymroddiad i barhau i ymladd dros y cymunedau rwy'n eu cynrychioli."
