Pedwar dyn wedi’u harestio a dau mewn cyflwr difrifol yn dilyn anhrefn treisgar

Ffordd y Felin

Mae pedwar dyn wedi’u harestio ac mae dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn anhrefn treisgar yn ne Cymru.

Fe ddaeth yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â grŵp o ddynion ym Mhontnewynydd, ger Pont-y-pŵl, tua 19:15 nos Iau, yn ôl Heddlu Gwent.

Mae dau o’r dynion gafodd eu harestio yn parhau yn nalfa’r heddlu ac mae dau ddyn yn parhau i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Roedd swyddogion arfog yn bresennol yn y lleoliad, ynghyd â Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu a pharafeddygon.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Anne-Marie Salwey: “Mae trais o unrhyw fath yn gwbl annerbyniol a bydd unrhyw un y canfyddir eu bod wedi bod yn rhan o’r anhrefn hwn yn cael eu trin yn briodol, gan na fyddwn yn derbyn ymddygiad o’r fath yn ein cymunedau.

“Rydym yn cydnabod y bydd adroddiadau o’r natur yma yn peri pryder i drigolion, ac mae’n debygol y byddwch yn gweld swyddogion yn yr ardal  yn cynnal ymholiadau fel rhan o’r ymchwiliad.”

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu sydd â lluniau teledu cylch cyfyng neu gamera cerbyd o’r ardal o amgylch Ffordd yr Ysbyty a Ffordd y Felin, i gysylltu gyda nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.